Bydd cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod cynnig i ailddatblygu tref Shotton mewn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 16).

Yn ôl yr awdurdod lleol, fe fu cynnydd yn ddiweddar mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Mae pryderon yn lleol y gallai methu â mynd i’r afael â’r problemau gael effaith ar ddyfodol y dref.

Mae’r cynllun yn amlinellu cyfres o amcanion ar gyfer y tymor byr a thymor hir, fydd yn llywio datblygiad yr ardal dros y ddeng mlynedd nesaf.

‘Potensial mawr’

Dyma’r buddsoddiad diweddaraf i gael ei ystyried yn yr ardal ar ôl i’r cyngor fuddsoddi yng nghanolfan Hwb, uned Plas Derwen, Tŷ Calon ac Ysgol Gynradd Queensferry.

Mae cynlluniau hefyd i ailddatblygu gorsaf reilffordd Shotton a Chanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Mewn adroddiad, dywedodd Steve Jones, prif swyddog y cyngor dros strydoedd a chludiant, fod gan yr ardal “botensial mawr”.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyngor ac aelodau lleol wedi derbyn nifer cynyddol o bryderon a chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion eraill, os na fyddwn yn mynd i’r afael a hyn gall ddifetha’r ardal a thanseilio ymdrechion lleol i gadw’r dref yn lân ac yn daclus sy’n addas i bobol fyw, ymweld a gweithio.

“Er mwyn delio â’r materion hyn a manteisio ar y pethau cadarnhaol a’r cyfleoedd posibl, cynigir bod y cabinet yn cefnogi datblygiad grŵp llywio amlasiantaethol i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r cynllun.

“Bydd y cynllun yn dod â’r bobol ynghyd i adfywio a chyflawni’r gwelliannau gofynnol i ganol y dref a’r ardal gyfagos er mwyn helpu i sicrhau bod y dref yn cyflawni ei gwir botensial.”

Pe bai’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, mae disgwyl y bydd y grŵp llywio yn cynnwys swyddogion y cyngor, gwleidyddion a chynrychiolwyr o Heddlu’r Gogledd.