Mae Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Powys, yn dweud ei bod hi’n “hanfodol” fod pobol sy’n byw ac yn gweithio yn y sir yn parhau i ddilyn canllawiau Covid-19.

Daw hyn yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion positif o’r coronafeirws ym Mhowys yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a hynny er bod achosion yn gostwng mewn rhannau eraill o Gymru.

Mae gan Bowys bellach y drydedd gyfradd uchaf o achosion positif o Covid-19 yng Nghymru, a’r ganran uchaf o brofion positif.

Y gred yw mai amrywiolyn Caint sydd wrth wraidd yr achosion.

Clystyrau mewn llefydd penodol

“Mae’r cynnydd diweddar yng nghyfradd yr achosion yn rhannol oherwydd achosion o Covid-19 mewn llefydd penodol ar draws y sir,” meddai Stuart Bourne.

“Mae gweithleoedd yn rhoi cyfle i heintiau ledaenu, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae pobol yn gweithio’n agos, lle mae nifer uchel o staff a lle gallai’r amgylchedd ganiatáu i’r feirws ymledu.

“Mae’n hanfodol bod pob cyflogai mewn gweithleoedd yn dilyn canllawiau ynghylch hylendid dwylo, cadw pellter cymdeithasol a defnyddio offer amddiffyn personol (PPE) y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle i atal achosion.

“Yn benodol, ni ddylid rhannu ceir ac ymgasglu wrth gymryd seibiant neu ar ddechrau a diwedd sifftiau.

“Os yw’n bosibl o gwbl, dylai pobol fod yn gweithio gartref.”

Dros 200 wedi mawr ym Mhowys

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ddoe (dydd Llun, Chwefror 15) fod mwy na 200 o bobol yn y sir bellach wedi marw â’r feirws.

Disgrifia’r Cynghorydd Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys, y newyddion fel “carreg filltir drychinebus”.

“Mae’n ein hatgoffa ni bod y feirws ofnadwy hwn yn dal i fod yn berygl i bawb,” meddai.

“Rhaid i ni fod yn wyliadwrus a dilyn cyfyngiadau cenedlaethol.  Ni ddylwn anghofio bod pob achos yn drychineb i ryw aelwyd ym Mhowys a rhaid gwneud popeth yn ein gallu i atal lledaenu’r feirws erchyll hwn.

“Mae llwyddiant y rhaglen frechu yn newyddion da i bawb ond ni fydd yn datrys y broblem ar ei ben ei hun.  Mae’n hanfodol fod pawb yn dilyn y cyfyngiadau cenedlaethol.  Ni allwn fentro gweld ton arall angheuol o’r feirws.”