Mae Aung San Suu Kyi yn wynebu cyhuddiad newydd a chyfnod amhenodol yn y ddalfa.

Mae’r heddlu ym Myanmar wedi cyflwyno cyhuddiad yn erbyn cyn-arweinydd y wlad, gan honni ei bod hi wedi torri cyfraith yn ymwneud â rheoli trychineb naturiol – cyfraith sy’n cael ei defnyddio er mwyn dwyn achos yn erbyn pobol am dorri rheoliadau Covid-19.

Mae hi eisoes wedi’i chyhuddo o fod â theclynnau cyfathrebu oedd wedi’u mewnforio heb eu cofrestru nhw.

Tair blynedd o garchar yw’r uchafswm ar gyfer y drosedd, ond gallai hi gael ei chadw yn y ddalfa am gyfnod amhenodol yn sgil newid yn y gyfraith a gafodd ei gyflwyno’r wythnos ddiwethaf sy’n galluogi’r awdurdodau i gadw pobol yn y ddalfa heb ganiatâd y llys.