Mae dynes wedi ymddangos gerbron y llys ar ôl ymchwiliad gan Heddlu’r De i honiadau ei bod hi wedi creu papurau enwebu ar gyfer ymgeisydd etholiad lleol.
Roedd Amanda Wycherley, 41 oed o Gastell-nedd, yn destun ymchwiliad gan Uned Troseddau Economaidd yr heddlu yn dilyn is-etholiad ym mis Mai 2019.
Roedd Jonathan Liam Jones i fod i sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer ward Resolfen Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Fel rhan o’i broses enwebu, roedd angen iddo sicrhau deg enw a llofnodwr o’r etholaeth, yn ogystal ag enwau a llofnodion wyth o bobol oedd yn asesu enwebiad yr ymgeisydd.
Roedd yn ofynnol cofnodi’r deg enw a llofnod ar bapur enwebu swyddogol ynghyd â’r ardal bleidleisio a nifer yr etholwyr yn ardaloedd pob un o’r llofnodwyr.
Canfu ymchwiliad yr heddlu fod Amanda Wycherley wedi ychwanegu llofnodion wyth o drigolion lleol heb eu caniatâd.
Daeth y mater i’r amlwg pan welodd un trigolyn lleol ei enw ar y ffurflen enwebu a oedd wedi’i phostio ar Facebook.
Gwelodd preswylydd lleol arall ei enw ar y ffurflen tra ei fod ar wyliau mordeithio.
Doedd Liam Jones na’i asiant ddim yn ymwybodol o’r hyn roedd Amanda Wycherley wedi’i wneud.
Plediodd Wycherley yn euog i droseddau o dan Adran 65 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobol 1983 a chafodd ei dedfrydu i chwe mis o garchar, wedi’i hatal am 12 mis.
Cafodd orchymyn hefyd i ymgymryd ag adferiad a 180 awr o waith cymunedol di-dâl yn ogystal â thalu gwerth £2,366.40 o gostau.
Oherwydd y gollfarn, bydd hi hefyd yn destun gwaharddiadau o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
“Tanseilio sylfeini ein proses ddemocrataidd”
“Mae troseddau fel y rhain yn tanseilio sylfeini ein proses ddemocrataidd ac mae diddordeb mawr gan y cyhoedd mewn mynd ar drywydd y materion hyn i’r llys er mwyn sicrhau y glynir wrth brosesau etholiadol,” meddai’r Ditectif Arolygydd Nick Bellamy o Uned Troseddau Economaidd Heddlu’r De.
“Yn yr achos arbennig hwn, nid yn unig mae Wycherley wedi defnyddio manylion trigolion lleol heb eu caniatâd, ond doedd y bobol ddim yn ymwybodol bod eu henwau a’u llofnodion wedi cael eu defnyddio i enwebu’r ymgeisydd.
“Mae’r erlyniad yn cyfleu neges glir y bydd y troseddau hyn yn cael eu hymchwilio’n llawn a’u dwyn gerbron y llysoedd.”