Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 16) i drafod cynllun posib i brynu tai i’w rhentu i drigolion lleol.

Bydd y Cabinet yn ystyried adroddiad a fydd yn gofyn am ganiatâd i fenthyg £15.4m er mwyn prynu tua 100 o dai er mwyn eu gosod ar rent fforddiadwy.

Daw hyn wedi i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gweithredu Tai gwerth £77m ym mis Rhagfyr er mwyn sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy i drigolion lleol.

Mae’r cynllun diweddaraf yn cynnwys darparu mwy o lety i bobol ddigartref, adeiladu mwy o dai cymdeithasol i’w gosod i drigolion lleol a dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

Mae tua 2,700 o bobol ar restr aros am dai yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

‘Cynyddu’r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobol’

“Rwyf yn pwysleisio yn aml mai fy mhrif flaenoriaeth ydi sicrhau ein bod fel Cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnig cartrefi i bobol Gwynedd o fewn ein cymunedau,” meddai Craig ab Iago, yr aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Dai ac Eiddo.

“Bydd y cynllun yma, sef prynu tai i’w gosod ar rent fforddiadwy i bobol leol, yn helpu oddeutu 100 o unigolion neu deuluoedd i fedru byw yn lleol.

“Ein bwriad ydi cynyddu’r cyflenwad o dai ar gyfer ein pobol er mwyn rhoi cyfle teg iddynt fyw yn eu cymunedau – rhywbeth a fyddai fel arall allan o’u cyrraedd.

“Bydd y cynllun yn golygu buddsoddiad sylweddol, ac mae’r achos fusnes yr ydym yn ei gynnig yn dangos y bydd y buddsoddiad yn cael ei ad-dalu dros gyfnod o rai blynyddoedd.

“Fe fydd yn gam mawr tuag at ein nod o sicrhau bod gan bobol Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi mabwysiadu cynllun tebyg sydd yn cynnig darn o dir am bris gostyngol i bobol leol adeiladu eu cartref cyntaf.

Prisiau tai ar gynnydd

Mae ffigurau diweddaraf Mynegai Prisiau Tai’r Principality yn dangos i gyfartaledd pris tŷ yng Nghymru godi 8.2% y llynedd, y cynnydd uchaf ers 15 mlynedd.

Y pris cyfartalog yng Nghymru erbyn hyn yw £209,723 – y tro cyntaf erioed i’r pris cyfartalog fod dros £200,000.

Gwynedd yw’r sir sydd hefyd â’r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru – 10.77% o stoc dai’r sir – ac mae’r Cyngor yn ystyried cynyddu treth ail gartrefi i hyd at 100%.

Arfbais y sir ar adeilad y cyngor

Cyngor Gwynedd yn ystyried prynu tai i’w rhentu i drigolion lleol

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried benthyca £15.4m er mwyn prynu tua 100 o dai

Cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru wedi codi i dros £200,000 am y tro cyntaf

Pris cyfartaledd tŷ yng Nghymru wedi codi 8.2% yn 2020, y cynnydd uchaf mewn 15 mlynedd