Mae prosiect sydd wedi’i arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi ymroi i gael gwared ar brysgwydd (coed bach) wedi’u gwasgaru ar draws 379 hectar (937 erw) o gyforgorsydd yr iseldir yng Nghymru.
Mae prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn gobeithio adfer saith o safleoedd cyforgorsydd i gyflwr mwy ffafriol.
Mae’r safleoedd hyn wedi dioddef yn sgil rheolaeth wael ar wlypdiroedd yn y gorffennol, gan achosi i blanhigion ymledol gymryd drosodd, a disodli planhigion pwysig.
Byddai adfer y cosfeydd yn helpu i atal llifogydd a gwella ansawdd dŵr tra byddai hefyd yn eu galluogi i storio carbon o’r atmosffer, a helpu’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
“Torri a thrin coed bach”
Mae planhigion ymledol, fel bedw a helyg, wedi ennill tir ar bump o’r saith safle, sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ger Tregaron, Cors Fochno ger y Borth a Rhos Goch ger Llanfair-ym-muallt.
“Gall coed amsugno hyd at 100 galwyn o ddŵr y dydd – mae hynny’n cyfateb i ychydig dros ddau faddon,” meddai Patrick Green, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE.
“Mae hyn yn sychu’r gors ac yn atal migwyn hanfodol rhag tyfu.
“Bydd torri a thrin coed bach yn helpu i gadw’r corsydd pwysig hyn yn wlyb ac yn sbyngaidd, gan ganiatáu goroesiad mwsoglau a phlanhigion a geir yn naturiol mewn corsydd.”
Adfer i’w cyflwr naturiol
Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar draws 187 hectar (462 erw) o Gors Caron eleni, sy’n cynnwys torri boncyffion a chwistrellu chwynladdwr i mewn i’r cyff.
Mae chwistrellu’r cyff yn golygu drilio twll yng nghyff neu fonyn coeden, sydd wedi’i thargedu a chwistrellu neu osod capsiwl â chwynladdwr yn y cyff neu’r bonyn.
Mae hyn yn rhyddhau’r chwynladdwr yn araf iawn, a thros nifer o flynyddoedd mae’r cyff neu’r bonyn yn edwino ac yn pydru.
Bydd tynnu a thrin coed sy’n tyfu ar y corsydd a choed cyfagos, yn helpu i annog mwsoglau pwysig y corsydd hyn i dyfu, a chadw’r corsydd yn wlyb ac yn sbyngaidd a’u hadfer i’w cyflwr naturiol.