Ddoe, galwodd Mark Drakefod y drydedd uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo ynghyd.

Cafodd y cyfarfod ei alw gan y Prif Weinidog ar ôl tirlithriad yn Aberllechau, yng Nghwm Rhondda, ddydd Sadwrn (Rhagfyr 19), wedi i law trwm syrthio yn yr ardal.

Cafodd yr aelodau oedd yn bresennol yn yr uwch-gynhadledd wybod am yr ymateb uniongyrchol i’r tirlithriad, wedi i beirianwyr Cyngor Rhondda Taf ac arolygwyr yr Awdurdod Glo ymateb yn gyflym i’r digwyddiad.

Maen nhw’n parhau i fonitro’r safle yn ofalus.

Mae perygl y gallai’r tir symud ychydig eto, ond dywedir nad oes perygl i’r cyhoedd.

Er hynny, mae pobol yn cael eu rhybuddio i gadw draw o’r ardal.

Y gynhadledd

Mae gwaith wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu opsiynau ar gyfer y safle, a bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi’r Cyngor a’r Awdurdod Glo.

Yn y gynhadledd, bu’r aelodau yn trafod y rhaglen dreial ehangach o brofion a gafodd eu cynnal ar y tir gan yr Awdurdod Glo a’r awdurodau lleol eleni.

Bu’r gynhadledd yn trafod gwaith y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, a gafodd ei sefydlu gan Mark Drakeford yn gynharach eleni, hefyd.

Eglurodd y Tasglu am statws y 2,000 a rhagor o domenni rwbel sydd wedi cael eu gadael ar ôl gan y diwydiant glo yng Nghymru, a chafodd rhaglen strategol ei rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r bylchau yn y ddeddfwriaeth bresesnnol.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol a’r Awdurdod Glo ar raglen gynnal a chadw er mwyn adfer safleoedd tomenni glo ar gyfer y tymor.

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi cael cyllid i wneud gwaith atgyweirio ar dirlithriad Tylorstown ac mewn safleoedd eraill eleni.

Fodd bynnag, hyd yma, nid yw Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau’r cyllid ar gyfer gwneud yr holl waith angenrheidiol i unioni’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r tomenni glo.

“Ein blaenoriaeth yw diogelu ein cymunedau”

Wrth drafod y mater, dywedodd Mark Drakeford:

“Mae’r tirlithriad yn Wattstown dros y penwythnos yn pwysleisio pwysigrwydd archwilio, cynnal ac adfer, ynghyd â gwaith y tasglu a sefydlais i ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn y tirlithriad yn Tylorstown ym mis Chwefror.

“Ein blaenoriaeth yw diogelu ein cymunedau. Mae’r tasglu wedi gwneud cynnydd da eleni ond mae’n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y gwaith allweddol hwn.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol, yr Awdurdod Glo a phartneriaid eraill fel y gall pobl sy’n byw yn agos at domenni glo deimlo’n ddiogel. Byddwn hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod cyllid hirdymor ar gael i gynnal a gwneud gwaith adfer ar y safleoedd hyn.”

Monitro tomenni glo yn “allweddol”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Yn sgil y sensitifrwydd ynghylch tomenni glo, mae’n gwbl allweddol eu bod yn cael eu monitro’n ofalus a’u harchwilio’n rheolaidd.

“Mae awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod gennym ddarlun cynhwysfawr o gyflwr y tomenni a’r gwaith sydd ei angen i’w cadw’n ddiogel,” eglurodd Andrew Morgan.

“Wrth iddi fwrw mwy o law, ac oherwydd y tywydd eithafol rydym yn ei brofi, mae’n gwbl allweddol ein bod yn parhau i werthuso a lleihau lefel y risg yn y safleoedd hyn.

“Mae awdurdodau lleol sydd â thomenni wedi’u lleoli ynddynt yn gweithio’n rhagweithiol â phartneriaid i ddatblygu cynlluniau i drin y tomenni sy’n achosi’r risg mwyaf fel rhan o raglen waith barhaus.

“Byddwn yn rhoi diweddariad rheolaidd i breswylwyr a gofynnwn iddynt gymryd o ddifri y rhybuddion i gadw draw o’r safleoedd hyn pan fydd gwaith yn cael ei gynnal yno.”