Mae dros 17% o staff ambiwlans Cymru yn methu â gweithio ar hyn o bryd, naill ai oherwydd salwch neu am eu bod yn gorfod hunanynysu.
Daw hyn wrth i barafeddygon adrodd fod pwysau sylweddol ar y gwasanaeth ac wrth i filwyr gamu i’r adwy i yrru ambiwlansys a chynorthwyo parafeddygon yng Nghymru.
Yr wythnos hon, roedd 442 o staff yn methu â gweithio oherwydd salwch, tra bod 248 arall yn gorfod hunanynysu naill ai ar ôl profi’n bositif am y feirws, ar ôl bod mewn cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, neu gan eu bod yn dangos symptomau.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod 10.91% o’u gweithlu yn sâl, a 6.1% yn hunanynysu ddydd Llun (Rhagfyr 21).
Mae ffigurau yn dangos mai dim ond 59.5% o ambiwlansys lwyddodd i gyrraedd cleifion o fewn wyth munud, yn dilyn galwadau brys lle’r oedd bywydau mewn perygl difrifol, fis diwethaf.
Dyma’r pedwerydd mis yn olynol iddyn nhw fethu â chyrraedd y targed o 65%, targed sydd wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru.
Yng Nghymru, mae profion RLT – profion sy’n rhoi canlyniad o fewn 30 munud hyd – ar gael i weithwyr iechyd a gofal ddwywaith yr wythnos ers Rhagfyr 14, yn rhannol er mwyn atal staff rhag gorfod hunanynysu heb fod angen.
Mae’r profion hefyd ar gael i ganran o staff y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru mewn cynllun peilot, a mae disgwyl y bydd mwy yn cael eu profi yn y flwyddyn newydd.
Ond mae Gweinidog Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi dweud y dylai profion rheolaidd gael eu rhoi i holl staff y gwasanaeth ambiwlans ar unwaith er mwyn helpu gyda’r pwysau sydd arnynt.
“Staff dewr y GIG yn haeddu gwell”
“Mae staff a gwirfoddolwyr y GIG wedi bod yn arwrol yn ystod y pandemig, ond mae Llywodraeth Cymru yn siomi nhw a phobol Cymru,” meddai Andrew RT Davies.
“Nid yw’r arwyr yma am eistedd adre, maen nhw eisiau gwneud eu gwaith, a neb yn fwy na gyrwyr ambiwlans a pharafeddygon dewr sy’n wynebu heriau mawr bob diwrnod.
“Mae’n syndod felly mai dim ond ar sail treial mae Llywodraeth Cymru yn profi staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, pan ddylen nhw gael eu profi’n rheolaidd ar hyd Cymru.
“Mae peidio â dal achosion asymptomatig yn rhoi pwysau anferth ar y gwasanaeth, ac yn gwaethygu problemau gyda galwadau 999. Mae hyn yn amlwg yn ystod cyfnodau prysur pan mae adrannau brys yn gwrthod cleifion, gan adael pobol yn sownd mewn ambiwlansys, neu, yn waeth fyth, yn aros oriau am ambiwlans i’w helpu.
“Mae pobol Cymru a staff dewr y GIG yn haeddu gwell,” pwysleisiodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dechrau rhaglen beilot i brofi staff yn rheolaidd, ac yn fuan bydd hwn yn cael ei gynnig i staff hanfodol, yn seiliedig ar asesiadau risg clinigol.”
Treialu cynllun peilot i brofi Heddlu De Cymru am Covid-19
Milwyr i helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans eto