Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dweud y bydd mwy na 90 o filwyr o Fyddin Prydain yn cael eu galw i mewn unwaith eto o ddydd Mercher (23 Rhagfyr) ymlaen i gefnogi ei dimau er mwyn helpu i ddelio â’r “pwysau eithafol” ar eu gwasanaethau.

Atebodd milwyr yr alwad i yrru ambiwlansys a mynd gyda pharafeddygon yng Nghymru yn ôl ym mis Ebrill, cyn y cynnydd yn y galw ar staff yn ystod y don gyntaf o’r coronafeirws.

Nawr, wrth i don y gaeaf gyrraedd lefelau uchel iawn, dywedodd prif weithredwr y Gwasanaeth Ambiwlans, Jason Killens:

“Mae cryn son wedi bod am y pwysau eithafol ar ein gwasanaeth ambiwlans yn ystod yr wythnosau diwethaf… a dyna pam rydym wedi penderfynu ail-ddefnyddio’r fyddin, a wnaeth waith gwych o’n cynorthwyo yn gynharach yn y flwyddyn.”

“Y gaeaf yw ein cyfnod prysuraf, a chyda’r ail don o bandemig byd-eang hefyd, mae hyn yn cryfhau ein capasiti ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru.”

Er na allant yrru o dan oleuadau glas i argyfyngau, bydd eu dyletswyddau’n cynnwys gyrru ambiwlansys, codi a thrin cleifion a chynorthwyo parafeddygon gyda thasgau anghlinigol, gan ganiatáu i dimau rannu a lledaenu eu hadnoddau ar draws eu fflyd.

Ymhlith aelodau’r lluoedd arfog fydd yn helpu timau ambiwlans bydd milwyr o 9 Regiment Royal Logistics Corps, sydd wedi bod yn cael hyfforddiant yn eu pencadlys yn Chippenham, Wiltshire.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS: “Gyda chyfraddau’r coronafeirws ar lefelau uchel mewn sawl ardal yng Nghymru, mae’n galonogol y bydd ein lluoedd arfog yn helpu ein gwasanaethau ambiwlans a’r GIG yn ystod cyfnod gaeaf prysur iawn.

“Ers dechrau’r pandemig, mae’r fyddin wedi cefnogi gwasanaethau iechyd ledled Cymru drwy ddosbarthu cyfarpar diogelu personol, adeiladu ysbyty dros dro yng Nghaerdydd, cynorthwyo profion cymunedol yn y cymoedd – a bydd yn helpu i gyflwyno brechlyn cymunedol yn ystod y misoedd nesaf.”