Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am arian ychwanegol i fusnesau bach yng Nghymru, yn ogystal ag i weithwyr llawrydd, i’w cefnogi yn ystod y misoedd nesaf.

Yn ôl y blaid mae llawer o fusnesau bach a microfusnesau yng Nghymru naill ai’n anghymwys i gael cymorth gan Lywodraeth Cymru neu’n cael cyn lleied mae’n eu gwneud yn ansefydlog.

Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds fod busnesau bach a theuluol yn wynebu “ergyd ddwbl” o ganlyniad i Brexit a’r cyfyngiadau newydd.

‘Pob clo yn taro busnesau’n galetach’

“Mae pob clo yn taro busnesau’n galetach na’r diwethaf,” meddai Jane Dodds.

“Mae adferiad o bob cau yn cymryd mwy o amser. Hyd yma, mae llawer o’r cymorth wedi bod yn fenthyciadau, y bydd angen eu had-dalu yn y pen draw.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am weld trefi a phentrefi ffyniannus; ond mae perygl gwirioneddol y bydd llawer o gymunedau ledled Cymru yn cael eu gadael allan, wrth i siopau, caffis a thafarndai lleol gau.

“Mae’r rhan fwyaf o’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru hyd yma wedi’i thargedu at fusnesau sydd â lefelau canolig i uchel o staff ac mae llawer o fusnesau bach a microfusnesau yn ei chael hi’n anodd. Nid yw llawer ohonynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt gan eu bod yn talu ardrethi busnes bach neu yn gweithio o adre neu yn symudol.

“Busnesau bach, microfusnesau a busnesau teuluol yw calon cymunedau Cymru ac economi Cymru.

“Maent yn cyflogi pobol, yn sicrhau bod pobol sy’n agored i niwed yn derbyn gofal ac yn gefn i’n cymunedau Cymreig.

“Mae angen y penderfyniadau cloi i achub bywydau, ond mae angen i Lywodraeth Cymru roi mesurau ar waith ar frys i achub ein cymunedau. Rydym am gael taliad premiwm ymlaen llaw, yn ogystal â’r cymorth a gyhoeddwyd eisoes, ar gyfer busnesau bach a busnesau teuluol.”

Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau a phobol hunangyflogedig a llawrydd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf mae’r cyllid yn ychwanegol i’r £340m o gymorth i fusnesau a gyhoeddwyd fis Tachwedd.

Gall pobol hunangyflogedig fod yn gymwys i hawlio cymorth ariannol drwy Gynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Gall gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru wneud cais drwy’r Gronfa Adferiad Diwylliannol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r Gronfa Adferiad Diwylliannol wedi cynnig cymorth “hanfodol” i’r celfyddydau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi £25m i awdurdodau lleol ddarparu grant dewisol i fusnesau sydd ar gau neu y mae Covid-19 wedi cael effaith sylweddol arnynt

Mae cymorth coronafeirws i fusnesau hefyd ar gael gan Busnes Cymru.