Bydd Michel Barnier yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i lysgenhadon y 27 o wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd am gyflwr y trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig wrth i amser redeg allan i daro bargen.
Bydd prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn esbonio’r sefyllfa i ASEau wrth i ymdrechion barhau i ddod i gytundeb â’r Deyrnas Unedig cyn i’r trefniadau masnachu presennol ddod i ben ar 31 Rhagfyr.
Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi parhau i fynnu y bydd y Deyrnas Unedig yn “ffynnu’n aruthrol” heb gytundeb, er gwaethaf rhybudd y gallai hynny ychwanegu difrod ofnadwy i economi sydd eisoes wedi’i rhacso gan y coronafeirws.
Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau ar 31 Rhagfyr, a bydd yn wynebu tariffau a chwotâu ar fasnach gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi hynny oni bai y deir i gytundeb.
Cytundeb cwotâu pysgod? Pwy a ŵyr
Ond mae trafodaethau ym Mrwsel yn parhau’n anodd, gyda “gwahaniaethau sylweddol mewn meysydd allweddol”, gan gynnwys hawliau pysgota a rheolau ar gynnal cystadleuaeth deg.
Gwrthododd Rhif 10 Stryd Downing gadarnhau adroddiadau bod Mr Johnson wedi siarad â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, ddydd Llun.
Gwrthododd swyddogion Stryd Downing wneud sylw, hefyd, ar adroddiadau y bu cam ymlaen o ran cwotâu pysgota.
Roedd adroddiadau yn awgrymu y byddai’r Deyrnas Unedig yn barod i dderbyn toriad o tua thraean yn nifer y pysgod y mae llongau’r Undeb Ewropeaidd yn gallu eu dal yn nyfroedd Prydain dros gyfnod o bum mlynedd.
Ond disgrifiodd un swyddog Rhif 10 yr adroddiadau fel “bollocks” ac mae swyddogion wedi rhybuddio bod gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng y ddwy ochr.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun, dywedodd Mr Johnson bod y sefyllfa “heb newid” a mynnodd y bydd y DU yn ffynnu heb gytundeb, gan ddibynnu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd.
“Mae yna broblemau. Mae’n hanfodol bod pawb yn deall bod yn rhaid i’r Deyrnas Unedig allu rheoli ei deddfau ei hun yn llwyr,” meddai.
“Ac, hefyd, fod yn rhaid i ni allu rheoli ein pysgodfeydd ein hunain.
“Ac mae’n dal yn wir y byddai telerau Sefydliad Masnach y Byd yn fwy na boddhaol i’r DU.
“A gallwn yn sicr ymdopi ag unrhyw anawsterau sy’n cael eu rhoi yn ein ffordd.
“Nid nad ydym am gael bargen, ond byddai termau Sefydliad Masnach y Byd yn gwbl foddhaol.
“Mae ‘ffynnu’n aruthrol’ yn parhau i fod yn ddisgrifiad eithriadol o dda o fywyd ar ôl Ionawr 1 y naill ffordd neu’r llall.”
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y gallai gadael heb gytundeb arwain at ergyd o 2% i gynnyrch mewnwladol crynswth – mesur o faint yr economi – yn 2021.
Byddai hynny’n golygu bod tua £45 biliwn yn cael ei ddileu oddi ar werth economi’r Deyrnas Unedig.