Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bydd Llywodraeth Cymru yn darparu prydau ysgol am flwyddyn ychwanegol.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fis Hydref bydd yn darparu prydau ysgol am ddim yn ystod pob gwyliau ysgol tan Pasg 2021 – bydd y cynllun nawr yn para tan Pasg 2022.

Mewn fideo a rannwyd ar gyfri Twitter y Prif Weinidog eglurodd Mark Drakeford byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £23m i ymestyn y cynllun.

Fodd bynnag dengys gwaith ymchwil gan yr elusen Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant nad yw 70,000 o’r 129,000 o blant oed ysgol sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn gymwys am brydau bwyd ysgol am ddim.

‘Arwain y ffordd’

“Pan darodd y pandemig creulon yma, fe arweiniodd Cymru’r ffordd wrth ddod y genedl gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ariannu prydau ysgol am ddim yn llawn trwy’r gwyliau,” meddai.

“Ym mis Hydref, aethom ymhellach ac ymestyn y gefnogaeth hyd at wyliau’r Pasg, gan mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud. Ac fel mae Marcus Rashford wedi ei ddangos mewn ffordd mor angerddol, nid ymdrin ag newyn yn unig ydym wrth gynnig prydau ysgol am ddim.

“Dyma’r camau y gallwn eu cymryd nawr i roi mwy o sicrwydd i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

“Mae’n gyfle i ni egluro i blant ein bod ni’n credu ynddyn nhw ac y byddwn ni’n sefyll wrth eu hymyl.”

Mae Marcus Rashford wedi trydar ei gefnogaeth.

Mae Rashford, a brofodd dlodi bwyd wrth dyfu i fyny, wedi bod yn ymgyrchu ar y mater drwy gydol y flwyddyn ac yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i fynd i’r afael â’r mater yn Lloegr.

Mae eisoes wedi gorfodi llywodraeth Boris Johnson i wneud dau dro pedol ar brydau ysgol am ddim.

Dywedodd Marcus Rashford: “Rhaid i 2021 fod yn flwyddyn o newid ac ymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi bwyd plant ledled y DU unwaith ac am byth. Os yw 2020 wedi dysgu unrhyw beth i ni, dylai ddangoa y gall unrhyw un ohonom ddisgyn i mewn i amgylchiadau annisgwyl. Nawr yw’r amser i weithredu.”

Plant yn colli allan

Wrth siarad â Golwg ganol mis Rhagfyr, rhybuddiodd Ellie Harwood, sy’n Rheolwr Datblygu Cymru i’r elusen Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, fod 70,000 o blant sy’n byw mewn tlodi yn colli allan ar brydau ysgol am ddim am fod eu rheini mewn gwaith sy’n talu cyflogau isel.

O ganlyniad, meddai, maen nhw’n gymwys i hawlio credydau treth. Ond mae’r budd-dal yma’n mynd â’r incwm teuluol dros y cap mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar hawlio bwyd ysgol am ddim, sef £7,400 y flwyddyn.

“Yng Ngogledd Iwerddon mae’r cap yn £14,000, yn yr Alban mae o’n £7,300 ac yn Lloegr £7,400,” eglura Ellie Harwood.

“Ond y gwahaniaeth rhwng Cymru a’r gweddill yw nad yw pob plentyn yn y cyfnod sylfaen [rhwng tair a saith oed] yn cael prydau ysgol am ddim fel sy’n digwydd yn yr Alban a Lloegr – dim ots beth yw incwm y rheini. Dyna’r gwahaniaeth mwyaf a dyna pam fod mwy o blant mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar brydau ysgol am ddim nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig!”

Hefyd, dywed Ellie Harwood nad ydym yn gwybod hyd a lled tlodi ar ôl Covid eto.

“Ar hyn o bryd does gennym ddim ffigyrau ar gyfer nifer y plant sydd mewn tlodi o ganlyniad i’r pandemig. Mae’r ystadegau yma’n cael eu casglu yn flynyddol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae’r [ffigyrau cyfredol] yn ddilys hyd at fis Mawrth eleni – jest cyn y coronafeirws.

“Ond rydym yn gallu gweld o’r ystadegau arbrofol sy’n dod mas bod newidiadau reit fawr yn nifer y plant sy’n byw mewn tlodi, ond fe fydd hi’n 2021 cyn i ni gael y darlun cyfan.”

Ar ben hynny, eglura Ellie Harwood, mae 6,000 o blant Cymru, plant mewnfudwyr yn aml, yn colli allan ar brydau ysgol am ddim am nad oes gan eu rhieni fynediad at fudd-daliadau.

“Yn ôl cyfreithiau mewnfudo Llywodraeth San Steffan, dyw llawer o rieni sy’n dod o dramor ddim yn cael hawlio unrhyw gefnogaeth gan y wlad,” meddai

“Os ydyn nhw yn colli eu gwaith ac mewn angen, yna maen nhw’n wynebu tlodi enbyd heb do uwch eu pennau. Yn aml iawn mae’r bobol yma yn dod i weithio yn ein hysbytai, maen nhw’n ofalwyr, yn nyrsys, ac maen nhw’n arbed bywydau’r funud hon.”

Darllen mwy

70,000 o blant mewn tlodi yn mynd heb ginio ysgol am ddim

Sian Williams

Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r drefn ar frys