Mae’r sector iechyd a gofal yn wynebu dyfodol “ansicr iawn” ar ôl Brexit, yn ôl adroddiad newydd.

Mae effaith diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr yn “risg”, ychwanegodd yr astudiaeth gan Ymddiriedolaeth Nuffield.

Dywedodd y felin drafod: “Gallai’r dyfodol hynod ansicr sy’n wynebu’r DU ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit beryglu system iechyd a gofal y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd yr adroddiad hefyd y byddai rheolau mudo newydd, tarfu posibl ar y cyflenwad o feddyginiaethau a dyfeisiau, “arafu economaidd parhaus” a “rhwystrau i fuddsoddi mewn gwyddoniaeth” yn taro’r sector iechyd.

Gan gyfeirio at y posibilrwydd o darfu ar gyflenwadau meddygol, dywedodd yr astudiaeth, er bod y GIG wedi cynllunio’n helaeth, “nid yw’n glir yn union pa senario y paratowyd ar ei gyfer a beth fydd yr effaith os yw tarfu’n hirach neu’n ehangach na’r disgwyl”.

Bil y Farchnad Fewnol

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod Bil y Farchnad Fewnol y Llywodraeth, bil hynod ddadleuol y gallwch ddarllen mwy amdani o dan yr erthygl hon, o bosib “yn peryglu cynlluniau gwledydd datganoledig i gyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus newydd.”

“Mesurau fel prisio pellach ar gyfer alcohol, pecynnu tybaco ac e-sigaréts, labelu calorïau a bwydydd braster uchel yn yr Alban, a gwahardd cig eidion sy’n cael ei chwistrellu gydag hormonau yng Nghymru”.

A dywedodd Ymddiriedolaeth Nuffield “na fydd cynlluniau wedi gallu rhagweld effaith y cyfyngiadau presennol ar y ffin a gyflwynwyd o ganlyniad i’r amrywiolyn Covid-19 newydd”.

Yn ei asesiad, dywedodd yr astudiaeth: “Gallai iechyd y cyhoedd gael ei waethygu’n uniongyrchol gan arafu economaidd estynedig sy’n arwain at safonau byw is a gwasgfa ar wariant cyhoeddus, yn ogystal â’r posibilrwydd o reoleiddio ffactorau iechyd fel llygredd aer yn llai effeithiol.

“Gallai’r risgiau hyn daro’r bobl fwyaf agored i niwed galetaf.”

Bydd y sector gofal cymdeithasol yn cael ei “rwystro rhag recriwtio staff o’r Undeb Ewropeaidd oherwydd polisi mudo newydd … gan waethygu prinder gweithlu enbyd” pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd fod effaith yr argyfwng coronafeirws ar fudo eisoes wedi ei “arafu’n ddramatig”.

Gostyngodd cofrestriadau Rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer ymgeiswyr o’r Undeb Ewropeaidd a’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd 70.1% – hynny yw, o 190,509 i 55,428 – rhwng pedwerydd chwarter 2019 ac ail chwarter 2020, meddai’r astudiaeth.

Ymchwil feddygol

Cododd Ymddiriedolaeth Nuffield bryderon hefyd am gyllid ar gyfer ymchwil feddygol.

Dywedodd: “Yn y tymor hwy, cred uwch ffigurau’r Llywodraeth a’r diwydiant y bydd y DU yn wynebu colli buddsoddiad ar gyfer ymchwil feddygol a gwyddorau bywyd, a chynnydd parhaol yng nghost ac anhawster cael gafael ar gyflenwadau.”

Dywedodd Mark Dayan o Ymddiriedolaeth Nuffield: “Er bod Covid-19 wedi gwthio iechyd a gofal iechyd i frig yr agenda ddomestig, mae cymaint o gwestiynau difrifol sydd heb eu hateb o hyd am ddyfodol y sector ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael y farchnad sengl ar 1 Ionawr 2021.

“Mae diffyg tryloywder o ran cynllunio ar gyfer y tarfu sydd o’n blaenau wedi bwydo i mewn i ymdeimlad o ansicrwydd i’r sector – yn y tymor byr a’r tymor hir.

“Mae yna set benodol o faterion a ddylai gael sylw ar unwaith – ergyd ddwbl Covid-19 a phrinder gweithlu sy’n gysylltiedig â Brexit, yr effaith economaidd, a’r perygl gwirioneddol o darfu ar gadwyni cyflenwi meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol.

“Ond nid dyna’r oll. Mae rhai materion sy’n peri pryder mawr heb eu datrys – materio a allai effeithio ar iechyd yn y Deyrnas Unedig dros flynyddoedd lawer i ddod ac a allai fod yn peryglu iechyd poblogaeth y Deyrnas Unedig.”

Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Nuffield yr ymchwil gydag academyddion o brifysgolion Rhydychen, Sheffield a Michigan, ac fe’i hariannwyd gan y Sefydliad Iechyd.

Senedd San Steffan ac afon Tafwys - wedi eu goleuo fin nos

Brexit: Bil y Farchnad fewnol yn derbyn cydsyniad brenhinol

Disgwyl i’r cam esgor ar gryn ffraeo rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan