Yn dilyn “cynnydd sylweddol” mewn achosion yn ystod y dyddiau diwethaf mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhybuddio pobol yr ardal Aberystwyth i fod yn ofalus.

Y gyfradd yng Ngheredigion ar hyn o bryd yw 247.6 o achosion i bob 100,000 o bobol.

Dyma’r uchaf y mae’r gyfradd wedi bod yng Ngheredigion ers dechrau’r pandemig.

Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, Ceredigion oedd â’r cyfraddau isaf o Covid-19 yng Nghymru â’r Deyrnas Unedig.

‘Dwy ran o dair o achosion Ceredigion yn ardal Aberystwyth”

“Rydym wedi sylwi ar gynnydd sylweddol yn y dyddiau diwethaf yn nifer yr achosion o Covid-19 yn ardal Aberystwyth,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.

“Roedd bron i ddwy ran o dair o’r holl achosion a nodwyd ddydd Sul, 20 Rhagfyr, a hanner yr achosion a nodwyd ddydd Llun, 21 Rhagfyr, gan ein Tîm Olrhain Cysylltiadau yn digwydd bod yn ardal Aberystwyth.

“Dyma 38 o achosion ychwanegol mewn deuddydd, a gwelwn fod y nifer yn cynyddu’n ddyddiol yn yr ardal.

“Mae nifer yr achosion positif ar draws y Sir yn parhau i gynyddu ar gyflymder na welsom o’r blaen.

“Mae’n lledaenu’n gyflymach ac mae angen i bob un ohonom fod yn fwy gofalus gan sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau bob amser.”

I gymharu, Merthyr Tudful yw’r ardal sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru yn ystod y saith diwrnod diwethaf gyda 1317.8 achos i bob 100,000 o bobol, tra mai Sir Fôn sydd ar gyfradd isaf o 47.1.

Y gyfradd yng Nghymru yn ystod y saith diwrnod diwethaf yw 634 achos i bob 100,000 o bobol.

‘Cyfyngu ar gysylltiadau’

Mae’r Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi atgoffa pobol sy’n byw yn y sir i barhau i ddilyn y rheolau er mwyn atal lledaeniad y feirws.

“Rydym yn gwybod ei bod hi’n anodd cyfyngu ar faint o bobol rydym yn eu gweld, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae cwtogi ar ein hymwneud â phobol yn hanfodol er mwyn cadw niferoedd y feirws i lawr.

“Dyma sut y byddwn yn amddiffyn ein hanwyliaid yn y pen draw.”