Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori pobol i gymryd gofal ychwanegol gan fod disgwyl cyfnodau o law trwm a llifogydd mewn rhannau o Gymru cyn y Nadolig.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am law yn y De a’r Canolbarth. Bydd y rhybudd yn dod i rym am 6.00 bore dydd Mercher, Rhagfyr 23, ac yn parhau mewn grym hyd 6 y bore ar Noswyl Nadolig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai rhagor o rybuddion llifogydd gael eu cyhoeddi.

“Oherwydd y glaw trwm ledled Cymru dros y dyddiau diwethaf, mae’r tir yn dal yn dirlawn ac mae afonydd yn llawn iawn, sy’n golygu y gallai glaw pellach achosi i afonydd godi’n gyflym,” meddai Sean Moore, Rheolwr Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae ein swyddogion yn monitro’r rhagolygon yn ofalus ac yn gweithio gyda phartneriaid i baratoi ac i leihau’r risg i gymunedau.

“Gall amodau gyrru fod yn wael, felly gofynnir i bobol gymryd amser a gofal ychwanegol wrth deithio.”

Cynghorir pobol i gadw llygad ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhybuddion llifogydd diweddaraf yn eu hardal, yn ogystal â dilyn adroddiadau newyddion a thywydd lleol.

Glaw trwm i “achosi llifogydd mewn sawl ardal o’r De a’r Canolbarth”

“Rydym yn cynghori pobol i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio gan y gallai ffyrdd fod yn beryglus”