Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Julie James, wedi cyhoeddi’r Setliad Cyllid Llywodraeth Lleol.
Bydd cynghorau yng Nghymru yn derbyn £6.3 biliwn mewn cyllid cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Y llynedd, roedd cynnydd yn y setliad cyllid ar gyfer cynghorau lleol. Mae’r setliad eleni yn cynnwys cynydd pellach mewn cyllid refeniw.
Bydd cyllid refeniw craidd cyffredinol, heb ei neilltuo, ar gyfer cynghorau yn cynyddu 3.8% o gymharu ag eleni, i dros £4.6bn. Yn ei datganiad dywed Llywodraeth Cymru fod “y cynnydd cyfatebol o £172m yn y setliad a’r cynnydd mewn grantiau penodol yn adlewyrchu’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i lywodraeth leol yn ei chyllideb gyffredinol.”
Bydd awdurdodau lleol yn parhau i rannu £198 miliwn mewn Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef cyllid i’w wario ar eu blaenoriaethau a’u rhwymedigaethau statudol.
Mae hyn yn cynnwys arian ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus, ac arian tuag at alluogi awdurododau lleol i ymateb i flaenoriaethau megis datgarboneiddio, tai, ac adferiad economaidd yn sgil Covid-19.
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu faint o arian a roddir i gynghorau lleol, a dweud bod Llywodraeth Cymru “yn parhau i feio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eu methiannau”.
“Dyma’r setliad gorau y gallaf ei gynnig”
Dywedodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru:
“Bydd hyn yn darparu llwyfan cadarn i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllideb, a chan adeiladu ar gyllid sylweddol eleni, dyma’r setliad gorau y gallaf ei gynnig.
“Er bod llywodraeth leol yn wynebu pwysau sylweddol, yn enwedig yn sgil y pandemig, bydd y cynnydd hwn mewn cyllid refeniw craidd yn galluogi cynghorau i gynnal a darparu gwasanaethau lleol gwerthfawr.
“Eleni, yn fwy nag erioed, rydym wedi gweld pa mor hanfodol yw llywodraeth leol i’n bywydau ni i gyd, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
“Mae’r cyllid hwn yn cydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol yn ein cenhadaeth genedlaethol i wella addysg, darparu gofal cymdeithasol, trechu tlodi a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd,” esbonia.
“Rwyf wedi trafod ag arweinwyr cynghorau ein cydnabyddiaeth gyffredin o’r angen i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, ac rwy’n gobeithio y bydd y setliad hwn yn helpu cynghorau i adeiladu rhagor o dai yng Nghymru, ac i wneud hynny yn gyflymach.”
“Siomedig” fod Llywodraeth Cymru yn methu cyfle
Serch hynny, dyweda Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr ar Lywodraeth Leol, Tai, a Chymunedau, Mark Isherwood, ei fod yn “siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyfle i greu cynllun clir er mwyn cefnogi cynghorau lleol, ac yn parhau i feio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eu methiannau.
“Yn ystod y pandemig, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â rhoi’r arian ychwanegol, a gawson nhw ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi rhagor o arian i gynghorau yn Lloegr, yn syth i gynghorau. Yn hytrach, fe wnaethon nhw orfodi cynghorau i wneud ceisiadau am yr arian.
“Derbyniodd Llywodraeth Cymru £5 biliwn ychwanegol eleni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn ymdopi â Covid-19. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwario, na phenderfynu sut i wario, £1.8 biliwn o’r arian hwnnw.
“Byddan nhw’n derbyn £1.3 biliwn arall flwyddyn nesaf, ac mae fyny iddyn nhw sut i’w wario,” esbonia Mark Isherwood sy’n Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru.
Rhai cynghorau dan anfantais
“Tra fy mod yn croesawu’r ffaith bod rhai cynghorau yn cael mwy o arian gan Lywodraeth Cymru nag eraill eleni, nid yw hynny yn gwneud iawn am flynyddoedd o dan-ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu cynghorau gweledig o gymharu â rhai dinesig.
“Byddwn ni wedi cyflwyno cyllido gwaelodol ar gyfer cynghorau eleni gan fod rhai cynghorau, megis Ceredigion a Wrecsam, dan anfantais o gymharu ag eraill.
“Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros ariannu teg i lywodraethau lleol fel eu bod yn gallu cynnig gwasanaethau i bobol ledled Cymru, yn enwedig yma yn y gogledd – lle mae’r cynnydd yn eu cyllid yn is, ar gyfartaledd, nag yng ngweddill Cymru,” meddai.
“Rwyf wedi fy nigalonni o weld bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â ffurfio llywodraeth leol well yn dilyn pandemig, yn enwedig gan fod cynghorau wedi gwneud eu gorau glas yn ystod Covid-19 i barhau i gynnig gwasanaethau dan amgylchiadau anodd iawn.”
Ymateb Llywodraeth Leol
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi croesawu’r setliad ar y cyfan, gan ei alw’n “setliad ariannol cadarnhaol” sy’n dod ar ddiwedd “blwyddyn eithriadol.”
Dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf) fod y setliad “i’w groesawu gan ei fod yn darparu buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol ac yn rhoi peth sicrwydd i gynghorau mewn cyfnod ansicr.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn galed dros ben i ni i gyd. Mae cynghorau a Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n eithriadol o agos i gefnogi ac amddiffyn ein cymunedau.
“Mae’r gefnogaeth ariannol a roddwyd i gynghorau gan Lywodraeth Cymru i ymateb i’r argyfwng wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon ond bydd effeithiau’r argyfwng a phwyseddau sector parhaus yn cael eu teimlo am beth amser.”
‘Byd wedi Covid’
Fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC na fydd y cyllid a gyhoeddwyd “yn cwrdd â’r pwysau a wynebir gan holl gynghorau Cymru.
“Er ein bod ni’n parhau i fod yng ngafael yr argyfwng, fe fydd un diwrnod yn cilio a rydyn ni eisiau sicrhau y bydd ein gwasanaethau ni yn parhau i fod yno i’n cymunedau ni mewn byd wedi Covid.”
Fel ei gyd-Geidwadwr Mark Isherwood, tynnodd y Cynghorydd Peter Fox OBE (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC, sylw at “arian canlyniadol sylweddol a fydd yn llifo o gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, gyda chyfran ohono eto i’w ddyrannu o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n falch bod rôl llywodraeth leol dros y flwyddyn neilltuol hon wedi cael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Mae’n allweddol bod y pwysau gwirioneddol mewn llywodraeth leol yn cael eu datrys a byddwn ni’n parhau i wneud yr achos hwn i Weinidogion yn yr wythnosau i ddod.”