Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi argymell y dylid cael gwared ar y gwaharddiad ar deithio rhwng Prydain a gwledydd Ewrop.

Er hynny, maent yn galw ar wledydd sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd i annog pobol i beidio teithio o wledydd Prydain.

Ddoe, fe wnaeth Ffrainc wahardd lorïau rhag croesi’r sianel o Brydain i Ffrainc, gan arwain at giwiau o fwy na 1,500 o lorïau ar y draffordd yng Nghaint.

Daeth hyn wrth i nifer o wledydd yn Ewrop wahardd teithwyr o Brydain, yn sgil ofnau ynghylch amrywiolyn newydd o’r coronafeirws sy’n bresennol yn ne-ddwyrain Lloegr, a Chymru.

Argymell bod holl wledydd Ewrop ddilyn yr un trefniant

Er mwyn datrys yr helynt, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn argymell bod holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn yr un trefniant.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn argymell bod holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn caniatáu teithio hanfodol o Brydain.

Dylid codi’r gwaharddiad sydd ar awyrennau a threnau, meddai’r Comisiwn, “er mwyn sicrhau bod pobol yn gallu teithio pan fo hynny yn hanfodol, ac i osgoi tarfu ar y gadwyn gyflenwi.”

Yn ôl Comisiynydd Trafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd, Adina Valean, mae’n “hanfodol fod gweithwyr sy’n cludo nwyddau yn cael eu hepgor rhag unrhyw gyfyngiadau ar deithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd.”

Mewn trafodaethau brys i geisio datrys y gwaharddiad sydd ar lorïau rhag teithio i Ffrainc, mae’r Deyrnas Unedig a Ffrainc wedi trafod profi gyrwyr lorïau am Covid-19.

Awgrymodd y Comisiwn Ewropeaidd y dylid defnyddio profion sydyn er mwyn osgoi rhagor o darfu.

“Annog pobol i beidio â theithio” o Brydain i’r Undeb Ewropeaidd

Fodd bynnag, dywedodd Comisiynydd Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, Didier Reynders, y dylai “gwledydd yr Undeb Ewropeaidd gymryd camau ar y cyd i annog pobol i beidio â theithio rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, oni bai fod y daith yn un hanfodol”.

Ond, “ar yr un pryd, ni ddylid gosod un gwaharddiad cyffredinol fyddai’n atal miloedd o ddinasyddion y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd rhag gallu dychwelyd adre.”

Ffrainc yn cytuno i godi’r gwaharddiad ar deithio, ond rhaid ar brawf corona negyddol.

O ystyried ymarferoldeb cael profion, efallai na fydd yr amodau hyn yn gwneud rhyw lawer i leddfu’r tagfeydd yng Nghaint ar unwaith