Mae awdurdodau Ffrainc wedi cyhoeddi y bydd teithiau o wledydd Prydain yn cael ailddechrau ar ôl i waharddiad y coronafeirws gael ei godi – ond bydd yn rhaid i’r rhai sy’n ceisio teithio gael canlyniad prawf negyddol.
O ystyried ymarferoldeb cael profion, efallai na fydd yr amodau hyn yn gwneud rhyw lawer i leddfu’r tagfeydd yng Nghaint ar unwaith.
Anogodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, yrwyr lorïau i beidio â mynd i’r sir.
Cafodd y gwaharddiad ar deithio ei osod mewn ymateb i bryder am ledaeniad yr amrywiad o’r coronafeirws, sy’n lledaenu yng ngwledydd Prydain.
Dywedodd Jean-Baptiste Djebarri, gweinidog trafnidiaeth Ffrainc y “bydd awyrennau, cychod a threnau Eurostar yn ailddechrau gwasanaeth bore yfory”.
“Bydd yn rhaid i ddinasyddion Ffrainc, pobl sy’n byw yn Ffrainc, a’r rhai sydd â rheswm dilys gael prawf negyddol,” meddai wedyn.
“Gwnaed cynnydd da heddiw a chytundeb gyda Llywodraeth Ffrainc ar ffiniau,” meddai Grant Shapps.
“Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gludwyr yn ddiweddarach heno, ond rhaid i gludwyr beidio teithio i Gaint heno.”
Daeth penderfyniad Ffrainc i godi’r gwaharddiad ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd argymell dull gweithredu ar y cyd gan aelodau’r Undeb Ewropeaidd.
Byddai’r dull gweithredu yn caniatáu teithio hanfodol yn unig, gan geisio hwyluso cludo teithwyr.
Cafodd mwy na 2,800 o lorïau eu dal yng Nghaint brynhawn Mawrth o ganlyniad i’r aflonyddwch.
Mae adroddiadau bod gyrwyr wedi’u gadael heb ddŵr a bod yr unig doiled wedi blocio, yn ôl cyd-yrrwr aeth yno i ddelifro cyflenwadau iddyn nhw.