Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru, gwerth £110m, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig heddiw (22 Rhagfyr) wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac awdurdodau lleol lofnodi Penawdau’r Telerau.

Tystia’r llofnodion i ymrwymiad y llywodraethau a’r awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn darparu bargen i gefnogi economi’r rhanbarth.

Yn ogystal, mae’n ymrwymo Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i gefnogi’r fargen twf gyda buddsoddiad o £55m yr un.

Mae’r fargen twf yn seiliedig ar weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru a gafodd ei chyhoeddi yn gynharach eleni.

Mae’r weledigaeth yn amlinellu’r strategaeth economaidd ehangach ar gyfer y rhanbarth, a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi a denu buddsoddiadau pellach gan y sectorau cyhoeddus a phreifat i’r ardal.

Gall y rhanbarth nawr symud ymlaen i’r cam nesaf, sy’n cynnwys cyflwyno cynigion manylach fydd yn cynnwys meysydd i’w blaenoriaethu.

Mae cysylltedd digidol, ymchwil gynhwysol ac arloesedd, ynni a sgiliau ymysg y meysydd hynny.

Y “gwaith caled yn dechrau nawr”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Arweinydd Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i ni yng Nghanolbarth Cymru, gan ddangos ymroddiad ac ymrwymiad yr holl bartneriaid i’r rhanbarth – ac mae’n ddatblygiad cadarnhaol iawn ar ddiwedd blwyddyn anodd iawn.

“Mae’r gwaith caled yn dechrau nawr, fodd bynnag. Bydd y flwyddyn nesaf yn hanfodol i osod y sylfeini ar gyfer darparu Bargen Dwf am y 15 mlynedd nesaf ar y cyd â busnesau a chymunedau Canolbarth Cymru.

“Bydd yn hanfodol manteisio ar y  cyfle hwn i gyflawni a denu buddsoddiad sylweddol i’r economi ranbarthol, gan sbarduno buddsoddiad pellach gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ehangach,” meddai’r Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris.

“Diwrnod pwysig” i ganolbarth Cymru

Dywedodd Lee Walters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, fod “hwn yn ddiwrnod pwysig i Ganolbarth Cymru. Rwy’n falch fy mod wedi llofnodi Penawdau’r Telerau sydd bellach yn ein hymrwymo i gyd i weithio gyda’n gilydd ar gam nesaf y fargen twf.

“Mae eleni wedi bod yn hynod o anodd a heriol i bob un ohonom, ac mae’r effaith ar fusnesau wedi bod yn ofnadwy.

“Bydd y fargen twf yn ffactor bwysig wrth ddelio ag effeithiau parhaus pandemig y coronafeirws ar yr economi, ac mae’n dda gweld pawb yn dod at ei gilydd i geisio sicrhau bod y fenter hon yn llwyddiant.”

“Newyddion gwych i gymunedau a busnesau”

Croesawodd Gweinidog y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer canolbarth Cymru y garreg filltir.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Russell George fod y llofnodi yn gam arall ymlaen, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno gwerth £820m o fargeinion twf ar draws Cymru.

“Mae hyn yn newyddion gwych i gymunedau a busnesau ar draws Powys a Cheredigion.

“Mae effaith Covid-19 i’w deimlo’n ddwys yma yng nghanolbarth Cymru, yn sgil cau’r diwydiant twristiaeth, a’r effaith ar ffermwyr llaeth wrth i’r galw am laeth gan y sector lletygarwch leihau.

“Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru yn caniatáu i’r ardal godi yn ôl ar ei thraed wedi’r pandemig, gan greu swyddi pwysig ar gyfer pobol leol a fydd yn cefnogi teuluoedd lleol a chaniatáu i fusnesau dyfu,” meddai Russell George.

“Cyfle sylweddol i drawsnewid y rhanbarth”

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: “Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn anelu at ddod â mwy o fuddsoddiad a thwf i gymunedau ledled Cymru ac mae’r llofnodi heddiw yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol o ran cyflawni’r nodau hynny.

“Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gyfle sylweddol i drawsnewid y rhanbarth. Byddwn yn adeiladu’n ôl yn well o’r pandemig ac yn dod â chyfleoedd a swyddi i’n cymunedau a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo £55m i’r portffolio cyffrous hwn o fuddsoddiad.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu’r fargen twf a sicrhau ei bod yn cyflawni ar gyfer pobl a busnesau Canolbarth Cymru.”