Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y cyngor ar gyfer pobol sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, neu’r bobol a oedd yn rhan o’r cynllun ‘gwarchod’ yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Y cyngor nawr yw na ddylai pobol yn y grŵp hwn adael eu cartrefi er mwyn mynd i’r gwaith nag i’r ysgol.

Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i bobol sy’n gweithio mewn swydd sydd â chysylltiad rheolaidd neu barhaus â phobol eraill, neu swydd lle mae unigolion yn treulio cyfnodau hir o amser yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach.

Bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn anfon llythyr i gadarnhau’r cyngor hwn, ond bydd yn cymryd peth amser yn sgil y Nadolig – mae hynny’n “anochel,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Daeth Llywodraeth Cymru i’r penderfyniad ar sail nifer o ffactorau, ond y dylanwad diweddaraf yw’r twf sylweddol yn y cyfraddau heintio yn sgil yr amrywiolyn newydd.

Yn ôl datganiad gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae’r penderfyniad yn deillio’n rhannol o ystyried y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd, gan fod nifer cynyddol o gleifion mewn ysbytai.

Dywedodd Mr Gething: “Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn seiliedig ar nifer o ffactorau ond mae’r twf sylweddol diweddar mewn cyfraddau heintio wedi dylanwadu arno’n fwyaf diweddar, o bosibl oherwydd amrywiolyn newydd y coronafeirws.

“Rydym hefyd wedi ystyried y pwysau a welwn ar ein gwasanaeth iechyd gyda mwy o bobl yn yr ysbyty. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu bob tair wythnos sy’n cyd-fynd ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o lefelau rhybuddio ledled Cymru.”

Y cyngor

Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu bob tair wythnos, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o’r lefelau rhybudd ledled y wlad.

  • Mae’r rheoliadau sydd mewn grym ar lefel 4 eisoes yn berthnasol i’r grŵp hwn, felly rhaid iddynt aros adre cymaint â phosib.

  • Caiff y grŵp barhau i fynd allan i ymarfer corff, ac ar gyfer apwyntiadau meddygol.

  • Caiff y grŵp hwn barhau i fod yn rhan o swigen gefnogaeth, cyn belled â’u bod yn cymryd gofal.

  • Y dewis mwyaf diogel, yn ôl Llywodraeth Cymru, i’r grŵp yw peidio â bod yn rhan o Swigen Nadolig. Os ydynt yn dewis bod yn rhan o Swigen Nadolig – dylid lleihau cysylltiadau cymaint â phosibl, cyfarfod am gyfnodau byr mewn mannau â digonedd o awyr iach, golchi dwylo ac arwynebedd yn rheolaidd, a chadw 2 fetr oddi wrth eraill.

Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ond yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn cynnig digon o gefnogaeth i’r grŵp hwn o bobol.

Dyweda Andrew RT Davies, Gweinidog Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: “Rwyf yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi meddwl am y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, ond nid yw’r cyhoeddiad yn mynd ddigon pell.

“Mae’r pandemig wedi dangos nad yw hanner mesurau ddigon da, yn enwedig gan fod adroddiadau’n awgrymu heddiw fod gan Gymru’r cyfraddau uchaf o achosion Covid-19 i bob 100,000 o bobol yn y byd.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ein Cynllun Diogelu dros y Gaeaf, a fyddai’n rhoi cefnogaeth ariannol, ymarferol, ac emosiynol gadarn i’r rhai sy’n rhan o’r cynllun ‘gwarchod.’

“Rhaid i ni beidio ag anghofio’r rhan yma o’n cymdeithas wrth i ni nesáu ar yr ŵyl,” pwysleisia Andrew RT Davies.