Mae nifer o bobol wedi codi pryderon ynghylch yr amser mae’n cymryd i roi brechlyn Covid-19 i bobol yng Nghymru.

Brechlyn Pfizer-BioNTech yw’r unig un sydd wedi cael ei gymeradwyo yn y Deyrnas Unedig hyd yma, ac mae gan Gymru 40,000 dos ohono ar y funud – digon i frechu 20,000 o bobol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar frechu gweithwyr gofal ac iechyd.

Canolbwyntia’r pryderon, yn bennaf, ar y ffaith mai canran fechan iawn o gartrefi gofal a phobol dros 80 oed sy’n derbyn y brechlyn yng Nghymru ar hyn o bryd, o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Get a grip!”

“Mae nifer cynyddol o bobol, yn enwedig pobol dros 80 oed, yn poeni pryd y bydden nhw’n derbyn brechlyn Covid-19, gyda nifer yn dweud nad ydyn nhw wedi derbyn gwybodaeth ynghylch cael eu brechlyn cyntaf,” meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth ITV News.

“Mae’r rhaglen frechu yng Nghymru yn codi pryderon am y niferoedd isel o bobol dros 80 oed, a phobol mewn cartrefi gofal, sy’n cael y brechlyn.”

Ac mae BBC Wales yn adrodd ar Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, yn dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru “get a grip, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn ymddiried ynddyn nhw.

“Fel arall, mae peryg, o ystyried graddfa’r brechu, y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yng ngallu Llywodraeth Cymru i rannu’r brechlyn – yn debyg iawn i’r ffordd flêr y maen nhw wedi ymdopi â’r feirws hyd yn hyn,” meddai.

Angen ‘dyrannu yn ôl yr angen, nid yn ôl poblogaeth’?

Mae Dai Lloyd, sy’n Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, wedi beirniadu’r “diffyg gwybodaeth” sy’n golygu nad oes neb yn gwybod pryd fydd pobl oedrannus yn derbyn y brechlyn.

Ychwanegodd Dai Lloyd, sydd hefyd yn feddyg teulu, “mae adroddiadau yn awgrymu bod cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn bell o’n blaenau ni, sydd yn sefyllfa annerbyniol.

“Er mwyn adlewyrchu poblogaeth hŷn Cymru, mae Plaid Cymru yn gofyn i’r brechlynnau gael eu dyrannu yn ôl yr angen, nid yn ôl poblogaeth.

“Mae’n rhaid i Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ailasesu a yw Cymru yn cael siâr deg o’r brechlynnau ar frys,” pwysleisiodd.

Pobol hŷn angen “mwy o wybodaeth”

Dywedodd Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru, wrth BBC Wales fod pobol hŷn am gael y brechlyn cyn gynted â phosib, a bod “llawer o waith” yn cael ei wneud er mwyn rhoi’r brechlyn i’r boblogaeth yn “sydyn ac effeithiol”.

Ond mae hithau hefyd wedi galw am fwy o wybodaeth ynghylch pryd fydd pobol dros 80 oed yn cael y brechlyn.

“Yn sgil adroddiadau dros y dyddiau diwethaf sy’n dangos bod rhannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig yn dilyn gwahanol gynlluniau brechu, a’r peryg y gall hyn achosi dryswch, byddai’n ddefnyddiol petai Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i bobol hŷn, gan egluro’r cynlluniau yn glir,” meddai.

“Mae ofn ar bobol”

Un arall sydd wedi galw am eglurdeb yw Ann Clwyd, cyn-Aelod Seneddol y Blaid Lafur.

“Mae ofn ar bobol, ac maen nhw am gael eu cysuro. Maen nhw am wybod beth sy’n digwydd,” meddai wrth siarad â BBC Wales.

“Rwyf yn adnabod pobol sydd yn hŷn na fi, ac yn sâl, ac nid ydyn nhw wedi derbyn dim gwybodaeth o gwbl,” meddai Ann Clwyd, sy’n 83 oed.

“Maen nhw’n clywed am beth sy’n digwydd yn Lloegr, ac yn credu bod pawb yn cael brechlyn oni bai amdanyn nhw.”

Wrth ymateb i hynny dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “diogelwch aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas wrth galon ein hymateb i’r pandemig.

“Mae’r byrddau iechyd yn dechrau gwahodd pobol dros 80 oed i gael eu brechu nawr. Rydym yn gobeithio bydd yr ail frechlyn – brechlyn Rhydychen – yn cael ei gymeradwyo yn y Deyrnas Unedig, a bydd hyn yn cyflymu’r rhaglen a chaniatáu agor clinigau mewn mwy o lefydd, megis meddygfeydd.”

Gall gymryd hyd at diwedd 2021 i frechu pawb

Daw hyn wrth i WalesOnline adrodd y gallai gymryd hyd at ddiwedd 2021 i bawb yng Nghymru gael eu brechu.

Mae adroddiadau heddiw yn awgrymu y bydd yr ail frechlyn – brechlyn AstraZeneca Rhydychen – yn cael ei gymeradwyo yn fuan ar ôl y Nadolig.

Caiff hyn effaith ar yr amser y mae’n ei gymryd i frechu pawb yng Nghymru.

Ond dywedodd ffynonell yn Llywodraeth Cymru wrth Wales Online: “Erbyn y Pasg efallai y bydd gennym ddealltwriaeth o ba mor dda y mae’r brechlyn yn atal y feirws. Mae’n debygol o gymryd tan ddiwedd y flwyddyn nesaf i’w gyflwyno i bawb.”

Mae Mark Drakeford wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal Cymru wedi cael y brechlyn erbyn y gwanwyn, ond gan rybuddio:

“Ni fyddwn ni’n gweld digon o bobol yn cael eu brechu cyn ail chwarter 2021 er mwyn gweld gwahaniaeth mawr a gallu newid y ffordd yr ydym ni yn ymdopi â’r feirws”.

A ellid mynd yn gynt?

Un sydd wedi galw am ailystyried a chyflymu’r drefn frechu yw cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair.

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd Mr Blair, er bod “gwir angen y ddau ddos… mae’r dos cyntaf yn rhoi imiwnedd sylweddol i chi”.

Dadleuodd fod “achos cryf dros beidio â dal ail ddos y brechlyn yn ôl” ac yn hytrach defnyddio’r rheiny i “roi’r dos cyntaf i nifer fwy o bobl.”