Mae amrywiolyn newydd arall o feirws Covid-19 bellach yn lledaenu yn y Deyrnas Unedig.

Credir bod y straen newydd yn lledaenu hyd yn oed yn haws na’r amrywiolyn a arweiniodd at gyfyngiadau Lefel 4 newydd yng Nghymru.

Dywedodd Gweinidog Iechyd San Steffan, Matt Hancock, fod hyn yn newyddion “pryderus iawn”.

Mae’r amrywiolyn newydd, y credir ei fod y tu ôl i gynnydd mewn achosion yn Ne Affrica, wedi’i ddarganfod mewn dau berson yn y DU y credir eu bod yn gysylltiadau â phobl a deithiodd rhwng y ddwy wlad yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Matt Hancock wrth gynhadledd i’r wasg yn Stryd Downing y byddai’r darganfyddiad yn arwain at reolau cwarantin newydd brys ar gyfer ymwelwyr diweddar o Dde Affrica.

“Mwy trosglwyddadwy eto”

Dywedodd Mr Hancock: “Mae’r amrywiolyn newydd hwn yn peri pryder mawr gan ei fod yn fwy trosglwyddadwy eto ac mae’n ymddangos ei fod wedi newid mwy na’r amrywiolyn newydd a ddarganfuwyd yn y Deyrnas Unedig.”

Cyhoeddodd amrywiaeth o fesurau newydd a i leihau’r lledaeniad, gan gynnwys rhoi’r ddau berson y gwyddys eu bod wedi’u heintio â straen De Affrica mewn cwarantîn ar unwaith.

Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i unrhyw un yn y DU sydd wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y pythefnos diwethaf ac unrhyw un sy’n gyswllt agos â rhywun sydd wedi bod yn Ne Affrica yn ystod y pythefnos diwethaf, fynd i gwarantîn ar unwaith.

“Rhaid iddyn nhw atal pob cyswllt ag unrhyw berson arall o gwbl.”

Dywedodd y byddai’r mesurau’n rhai “dros dro” tra bod labordai Porton Down yn ymchwilio i’r straen newydd.

Credir bod yr amrywiolyn cyntaf, un y Deyrnas Unedig, wedi digwydd yng Nghaint mor gynnar â mis Medi.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod straen De Affrica yn gyfrifol am y nifer uchaf erioed o bobl yn yr ysbyty yno.