Mae cynllun peilot pedair wythnos ar gyfer profi Heddlu De Cymru am Covid-19 wedi’i gyhoeddi gan Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun yn mynd ati i brofi staff asymptomatig sydd wedi dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y feirws.

Prif bwrpas y cynllun yw ceisio lleihau nifer staff yr Heddlu sydd i ffwrdd o’r gwaith gan eu bod yn gorfod hunanynysu.

Cafodd cynllun tebyg ar gyfer staff a myfyrwyr ysgolion a cholegau Cymru ei gyhoeddi yr wythnos diwethaf, a bydd y cynllun hwnnw yn dechrau ym mis Ionawr.

Mae’r cynllun profi cyfresol yn golygu y byddai gofyn i staff yr Heddlu sydd wedi dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, naill ai hunanynysu fel yr arfer, neu gymryd prawf ar ddechrau pob shifft drwy gydol y cyfnod hunanynysu.

Gall y rhai sy’n profi’n bositif barhau â’r gwaith, tra bod rhaid i’r rhai sy’n profi’n bositif hunanynysu, a threfnu prawf PCR i gadarnhau.

Dywedodd y gweinidog iechyd, Vaughan Gething, fod y peilot mewn ymateb i’r “pwysau penodol sy’n wynebu ardal Heddlu De Cymru”, ac y gallid ei gyflwyno i heddluoedd eraill yng Nghymru os bydd yn llwyddiant.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi bod yn delio â chyfartaledd o tua 300 o absenoldebau swyddogion a staff oherwydd salwch neu hunanynysu sy’n gysylltiedig â Covid ar unrhyw un adeg – sy’n cynrychioli 6% o’i weithlu o 5,000 o bobl.

Dywedodd yr heddlu ddydd Mercher bod ganddo 96 o heddweision i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd ar ôl profi’n bositif am y feirws.

Gweithio gyda phobol sy’n “agored i niwed”

Dywedodd Vaughan Gething: “Mae natur gwaith rheng flaen yr heddlu yn golygu bod rhyngweithio helaeth gydag aelodau o’r cyhoedd sy’n aml yn fwy agored i niwed – gan arwain at risg uwch o drosglwyddo, heintio a gofyn am hunanynysu.

“Mae hyn yn arwain at effaith andwyol ar allu gweithlu’r Heddlu i fynd i’r afael ag ymrwymiadau gorfodi’r gyfraith arferol o ddydd i ddydd.

“O ganlyniad i’r pwysau penodol sy’n wynebu ardal Heddlu De Cymru, rwyf wedi cytuno i gynnig i roi cychwyn i gynllun peilot profi cyfresol asymptomatig am bedair wythnos gyda Heddlu De Cymru, cyn cyflwyno profi cyfresol yn ehangach o bosib yn ardaloedd eraill yr heddlu yng Nghymru, yn amodol ar werthusiad ac adolygiad sy’n dangos effaith ac effeithiolrwydd y peilot cychwynnol hwn.

“Mae’r ardaloedd heddlu eraill yng Nghymru yn cytuno i’r cynnig hwn,” esboniodd y Gweinidog Iechyd.

Caniatáu i swyddogion “ddiogelu’r cyhoedd”

Dywedodd Andy Valentine, Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru:

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i chael i sefydlu’r peilot profion llif unffordd ar gyfer ein swyddogion a’n staff.

“Rydym yn gweld yr effaith ddifrifol iawn mae’r trefniadau olrhain cysylltiadau’n ei chael ar lefelau adnoddau’r heddlu.

“Pan mae gan swyddogion a staff symptomau Covid-19 neu pan maent yn cael prawf positif, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eu cysylltiadau agos i hunanynysu am 10 diwrnod.

“Oherwydd natur ddireolaeth ein gwaith, gall y cysylltiadau hyn fod yn niferus a chael effaith sylweddol ar yr unigolion dan sylw ac ar lefelau adnoddau,” eglurodd Andy Valentine.

“Bydd y peilot hwn yn caniatáu i swyddogion sy’n profi’n negatif ddychwelyd at eu dyletswyddau’n ddiogel fel eu bod yn gallu parhau i ddiogelu’r cyhoedd a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”