Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i yrwyr lorïau wrthdaro â’r heddlu yng Nghaint.

Ers dydd Llun mae lorïau wedi cael eu gwahardd rhag teithio i Ffrainc, ac erbyn hyn mae mwy na 5,000 o lorïau wedi casglu yng Nghaint.

Mae gofyn i’r gyrwyr gael eu profi am Covid-19 cyn cael mynediad i Ffrainc.

Roedd adroddiadau bod gwrthdaro yn Dover ac ym maes parcio’r cerbydau ym Manston fore heddiw, meddai Heddlu Caint.

Mae fideos wedi dod i’r golwg yn dangos yr heddlu yn ceisio gwthio torfeydd o yrwyr lorïau sy’n protestio yn eu holau.

Cafodd car heddlu hefyd ei ddifrodi yn ystod y cythrwfl ym Maston.

“Rydym ni’n flin iawn, a llwglyd”

Mae dwsinau o yrwyr i’w gweld ym Manton yn disgwyl tu allan i’w cerbydau am fwyd a diod, ac mae eraill wedi bod yn canu eu cyrn ar y cyd er mwyn dangos eu teimladau.

Dywedodd un gyrrwr Pwyleg, Greg Baranski, sydd wedi bod yn y ciw ers deuddydd, fod yna “ddau dryc o fwyd ar gyfer 2,000 gyrrwr”, a bod rhaid “aros am ddwy awr yn y glaw er mwyn cael un byrger.”

“Mae yna bobol yma o Rwmania, Lithuania, Sbaen, Portiwgal, ac rydym ni i gyd yn flin iawn, ac yn llwglyd.”

“Oedi hir” yn parhau 

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Grant Shapps, fod “oedi hir” yn parhau, er bod gyrwyr nawr yn cael eu profi.

Trydarodd: “Mae’r profi wedi dechrau wrth i ni baratoi ar gyfer ailddechrau’r teithio rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc.

“Ond, ni ddechreuodd heddlu ffiniau Ffrainc ymateb i’r cytundeb nes bore heddiw, ac mae oedi hir yn parhau. Plîs osgowch Caint nes bod y lorïau wedi clirio. Bydd cyrraedd yno yn achosi oedi i’ch siwrne.”

Rhybuddiodd Robert Jenrick, Gweinidog Cymunedau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y gallai gymryd “ychydig ddyddiau” i glirio’r holl giwiau.

Meddai Prif Weithredwr y Road Haulage Association, Richard Burnett:

“Mae am gymryd amser i glirio’r ôl-groniad anferth o gerbydau, ac mae cannoedd o yrwyr mewn perygl o beidio â chyrraedd adre ar gyfer y Nadolig.”

Profi wedi dechrau

Mae Ffrainc wedi llacio’r gwaharddiad ar lorïau heddiw, ond mae’n rhaid i bob gyrrwr o Brydain gael prawf Covid-19 negatif cyn mynd mewn i’r wlad.

Bydd pob gyrrwr lori, waeth beth fo’i genedligrwydd, yn gorfod cael prawf fydd yn adnabod amrywiolyn newydd y coronafeiwrs, a bydd y canlyniadau yn cael eu rhoi o fewn tua 30 munud, yn ôl y Road Haulage Association.

Bydd gyrwyr sy’n cael prawf positif yn cael cynnig prawf PCR sy’n cynnig canlyniad mwy manwl, meddai Robert Jenrick wrth Sky News.

Bydden nhw’n cael eu symud i lety sy’n ddiogel rhag Covid, ac yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod os yw’r ail brawf yn dod yn ôl yn bositif.

Rhybudd y bydd prinder “rhai bwydydd fresh”

Mae Consortiwm Manwerthu Prydain wedi rhybuddio bod posib y bydd rhai nwyddau fresh yn brin yn sgil yr oedi.

“Nes mae’r ôl-groniad o loriau wedi clirio a’r gadwyn gyflenwi yn gweithredu fel yr arfer, rydym yn rhagweld y bydd prinder rhai bwydydd fresh,” meddai Andrew Opie, Cyfarwyddwr Bwyd a Chynaliadwyedd y Consortiwm.

y faner yn cyhwfan

‘Dim rheswm’ am drafferthion yng Nghaint yn sgil Brexit heb gytundeb, medd Gweinidog Llywodraeth Prydain

Er bod cynnydd wedi bod yn nhrafodaethau Brexit dros y bythefnos ddiwethaf, mae “popeth yn dod yn ôl at bysgod,” meddai Taoiseach Iwerddon