Petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, “nid oes rheswm” i gredu y bydd rhagor o drafferthion ger y sianel yng Nghaint, meddai un Gweinidog Ceidwadol.
Dywedodd Robert Jenrick, Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Dai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol, wrth BBC Radio 4: “Nid yw’r un ochr am weld hynny yn digwydd.
“O edrych ar ddigwyddiadau’r diwrnodau diwethaf, mae mwyafrif helaeth o yrwyr y lorïau – dros 80% dwi’n meddwl – yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, maen nhw’n dod o’r cyfandir.
“Felly, mae’n bwysig i’r ddwy ochr fod problemau fel hyn yn cael eu datrys yn sydyn,” pwysleisiodd Robert Jenrick, sy’n Aelod Seneddol dros Newcastle-under-Lyme.
Dywedodd fod y paratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb wedi helpu wrth fynd ati i ymdopi â’r sefyllfa ger Dover.
“Dim cynnydd sylweddol”
Yn ogystal, dywedodd ei fod yn “weddol gadarnhaol” ynghylch y posibilrwydd o ddod i gytundeb masnach Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Er hynny, dywedodd wrth Sky News fod y ddwy ochr yn “parhau i anghytuno ar rai elfennau”.
“Rydym yn gweithio trwy’r problemau hyn, bydd ein trafodaethau yn parhau – mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir pan ddywedodd y bydd yn parhau i drafod nes y diwedd un – sef Rhagfyr 31 – gan mai dyna’r peth cywir i wneud. Dyna fyddai’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn ei ddisgwyl.
“Ond ar y funud does dim cynnydd sylweddol, nid yw’r Undeb Ewropeaidd yn cynnig cytundeb y mae’r Prif Weinidog yn teimlo y gallai ei lofnodi gan nad yw’n ein parchu ni, yn llawn, fel cenedl sofran, annibynnol,” esboniodd.
Wrth ofyn i Robert Jenrick os oedd cysylltiad rhwng y ffaith bod Emmanuel Macron wedi cau’r ffin gyda Ffrainc, a thrafodaethau Brexit, dywedodd ei fod “yn gobeithio ddim.”
“Rydym ni angen cytundeb”
Yn y cyfamser mae Toaiseach Iwerddon, Michael Martin, wedi awgrymu ei fod yn bosib y bydd swyddogion yn gweithio ar destun Cytundeb Brexit ar Ddiwrnod Nadolig, os bydd cynnydd cyn hynny.
Dywedodd Michael Martin ei fod o, ac arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd, yn “barod” i gymeradwyo unrhyw gytundeb a allai ddod i’r amlwg yn sgil y trafodaethau rhwng Brwsel a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Pe bai cynnydd heno neu fory, gallai swyddogion yn Ewrop fod yn gweithio ar destun y cytundeb dros ddiwrnod y Nadolig,” meddai wrth RTE Radio One.
Dywedodd ei fod yn dal i gredu y bydd cytundeb.
“O bwyso a mesur, ac ystyried y cynnydd sydd wedi ei wneud, credaf y dylen nhw allu dod i gytundeb.
“Credaf y byddai gadael heb gytundeb yn sioc ofnadwy i’r system economaidd, a hynny ar ben Covid-19 sydd wedi taro cymunedau yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn arbennig, mae ein heconomi fewnol ni wedi ei tharo yn galed. Ac felly, rydym ni angen cytundeb,” meddai’r Taoiseach.
“Popeth yn dod yn ôl at bysgod”
Roedd Michael Martin o’r farn mai’r dadlau ynghylch hawliau pysgota, yn bennaf, sy’n parhau i atal y ddwy ochr rhag dod i gytundeb.
“Mae popeth yn dod yn ôl at y pysgod, mae’n ymddangos ar y funud,” meddai.
“Mae lot o gynnydd wedi bod dros y ddwy, dair, wythnos ddiwethaf, ac mae’n anodd iawn i bawb. Ond mae’r gwahaniaeth yn y farn ar bysgota yn fawr, ac mae’n destun pryder i gymunedau pysgota yn Iwerddon.
“Nid yw’r holl beth yn ymwneud ag arian, mae’n ymwneud â chynaliadwyedd y diwydiant pysgota i nifer o’r gwledydd sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd, dwi’n credu. Mae gan chwech neu saith o’r gwledydd bryderon am hyn,” esboniodd Michael Martin.
“Mae’n ymwneud â chynnal cymunedau gwledig.”
Pwysleisiodd bod angen cytundebau pysgota cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a mynegodd ei bryder y byddai’r Deyrnas Unedig yn mynnu trafodaethau blynyddol.
“Un o fy mhryderon yw y byddai Prydain angen trafodaethau blynyddol ynghylch rhoi mynediad i’w dyfroedd ac ar gyfer pysgota yno, a chredaf y byddai hyn yn arwain at ansicrwydd i’r gymuned bysgota, gan eu bod am wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.”