Mae undeb Unite, sydd â 100,000 o aelodau yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd, wedi galw ar Lywodraeth Prydain i roi codiad cyflog “sylweddol” i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd i gydnabod eu rôl ystod argyfwng Covid-19.
Mae’r ysgrifennydd cyffredinol Len McCluskey wedi ysgrifennu at Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, i nodi galwadau’r undeb am godiad cyflog o £3,000 y flwyddyn neu 15% – pa un bynnag sydd fwyaf.
Cyfeiriodd hefyd ar y gostyngiad cyflog o 19% mewn termau real mae staff y Gwasanaeth Iechyd wedi’i ddioddef ers 2010.
‘Sarhaus’
“Mae clywed y Canghellor yn cyhoeddi y bydd gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn codiad cyflog tra ei fod yn rhewi cyflogau gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus sy’n helpu yn y frwydr yn erbyn y pandemig yn sarhaus,” meddai Len McCluskey yn y llythyr.
“Mae wir yn dangos faint o feddwl sydd gan y Llywodraeth o weithwyr allweddol yn y sector cyhoeddus.
“Maen nhw wedi blino’n lân wrth iddyn nhw barhau i wasanaethu yn ystod ail don y pandemig ac wrth i dymhorau mwyaf heriol y gaeaf agosau.”
Daw cytundeb cyflog tair blynedd y Gwasanaeth Iechyd i ben ym mis Ebrill 2021, ac mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi gofyn i Gorff Adolygu Cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd gyflwyno adroddiad fis Mai nesaf a dyfarniad ar gyfer 2021/2022.