Fe fydd Mark Drakeford yn cymharu’r profiad o gydweithio â Theresa May a Boris Johnson wrth siarad â Beti George ar Radio Cymru dros y Nadolig.

Mewn awr o sgwrs, bydd Mark Drakeford yn edrych yn ôl ar ei yrfa, ac ar flwyddyn heriol dros ben ar raglen Beti a’r Phobol, (dydd Sul, Rhagfyr 27).

Wrth drafod ei bryderon am sut le fydd Cymru ar ôl Brexit, dywed Mark Drakeford nad yw’n “meddwl fod ein llais ni yn cael lot o effaith ar Mr Johnson”.

“Pan oedd Mrs May yn Brif Weinidog – wrth gwrs roedd ei sefyllfa hi’n gwbl wahanol a doedd dim mwyafrif gyda hi yn Nhŷ’r Cyffredin – a siŵr o fod yn un o’r rhesymau pam roedd hi’n fodlon gwrando ar bobol eraill,” meddai.

“Ond yn y cyfnod pan roedd hi’n Brif Weinidog ro’n ni’n dod at ein gilydd, bob bob wythnos, gyda’r gweinidogion yn y Deyrnas Unedig – ni, Prif Weinidog yr Alban, ac yn y blaen.

“Ac roedd y berthynas yn lot fwy agos. Ar ôl i Mr Johnson ddod yn Brif Weinidog roedd hwnna wedi cwympo ac wrth gwrs mae’r mwyafrif ‘da fe ac mae e’n gallu gwneud beth bynnag mae e eisiau yng Nhŷ’r Cyffredin heb wrando ar neb arall.”

“Cyfrifoleb” i wrando a chydweithio

“Ond nid yw’n ffordd lwyddiannus, yn y tymor hir. Mae unrhyw berson sy’n meddwl am ddyfodol y Deyrnas Unedig eisiau gweld y Deyrnas Unedig yn llwyddo,” meddai wedyn.

“Dw i’n meddwl bod cyfrifoldeb gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i wrando ac i gydweithio.”

Yn ystod sgwrs, mae’r ddau yn trafod dyfodol Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Pwysleisia Mark Drakeford nad yw “eisiau gweld yr Alban yn diflannu o’r Deyrnas Unedig”.

“Os fydd yr Alban yn mynd ar lwybr ar ei phen ei hunain – yng Ngogledd Iwerddon mae pethau yn wahanol – bydd rhaid i ni gyd ailfeddwl am y berthynas rhyngddom ni a Lloegr – a gweld beth fydd y trefniadau a’r dewisiadau,” meddai.

Cerddoriaeth yn dylanwadu ar y Prif Weinidog

Yn ystod y rhaglen, bydd Mark Drakeford yn dewis ei hoff gerddoriaeth, ac yn dweud bod cerddoriaeth wedi cael dylanwad mawr ar ei fywyd wrth gael ei fagu yng Nghaerfyrddin.

Er nad yw’n arddel Cristnogaeth, ei ddewis cerddorol olaf yw darn o’r Messiah gan Handel.

“Dw i wedi canu’r Messiah nifer o weithiau ac mae’r gerddoriaeth mor wych,” meddai.

“Ro’n i’n canu mewn côr yn Eglwys San Pedr yng Nghaerfyrddin.

“Mae’r organ yn yr eglwys wedi dod i Gaerfyrddin o Gapel St George yn Windsor, ac roedd Handel ei hun wedi chwarae yr un organ!”

  • Bydd y sgwrs i’w chlywed ar Radio Cymru am 1 o’r gloch ddydd Sul (Rhagfyr 27) ar raglen Beti a’i Phobol