Mae meddygon yn yr Almaen wedi bod yn trafod salwch Alexei Navalny, arweinydd gwrthblaid Rwsia a gafodd ei wenwyno’n gynharach eleni.

Mewn erthygl yn The Lancet Journal, dywed meddygon yn Berlin iddo gael ei wenwyno gan asiant nerfol.

Cafodd ei daro’n wael ar hediad yn Rwsia ar Awst 20 ac ar ôl glanio yn ninas Omsk, cafodd ei gludo i’r ysbyty.

Cafodd ei drosgwlyddo o’r fan honno i Berlin ddeuddydd yn ddiweddarach, yn groes i ddymuniad Llywodraeth Rwsia.

Cafodd swyddogion Rwsia sancsiynau gan yr Undeb Ewropeaidd yn sgil yr helynt, ar ôl i brofion annibynnol ddangos bod olion Novichok yn ei gorff.

Ond roedd Llywodraeth Rwsia’n gwadu bod â rhan yn y digwyddiad, gan gyflwyno sancsiynau yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd.

Erthygl

Yn eu herthygl, dywed meddygon fu’n trin Alexei Navalny iddo dderbyn cymysgedd o wahanol gyffuriau i drin ei symptomau a’i salwch.

Wrth i’w gyflwr wella, fe ddaeth o’i goma ac roedd ganddo nam ar ei leferydd am dair wythnos.

Dywed meddygon iddo wella’n llwyr ar ôl 55 diwrnod.

Dyma’r astudiaeth glinigol gyntaf o effeithiau gwenwyn Novichok, sy’n debyg i effeithiau plaladdwyr cyffredin sy’n lladd mwy na 100,000 o bobol yn Asia bob blwyddyn.

Dywed meddygon fod Alexei Navalny wedi gwella am ei fod e wedi cael ei drin mor fuan ar ôl iddo fe gael ei wenwyno.

Yr wythnos ddiwethaf, roedd y wasg yn honni ei fod e wedi cael ei ddilyn gan asiantaeth ddiogelwch ddomestig ar deithiau ers 2017.

Mewn sgwrs ffôn a gafodd ei chyhoeddi gan Alexei Navalny yr wythnos hon, roedd swyddog diogelwch wedi honni ei fod e wedi cael ei wenwyno ar ôl i’r gwenwyn gael ei roi yn ei ddillad isaf, ond mae’r asiantaeth yn dweud bod yr alwad yn un ffug.