Mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar drothwy taro cytundeb masnach Brexit, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl cyhoeddiad ar Noswyl Nadolig – roedd trafodaethau’n parhau drwy’r nos ar fanylion y cytundeb ac yn dal i gael eu trafod ym Mrwsel bore ma (Noswyl Nadolig).

Y gred yw bod cynnydd wedi’i wneud o ran datrys materion gan gynnwys hawliau pysgota a’r mesurau ‘chwarae teg’ sydd â’r nod o atal cystadleuaeth ‘annheg’.

Daw’r cytundeb disgwyliedig ychydig ddyddiau’n unig cyn i’r trefniadau masnachu presennol ddod i ben ar 31 Rhagfyr.

Bu galwad hwyr y nos rhwng y Prif Weinidog Boris Johnson a’r Cabinet i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y sefyllfa.

Mae Mr Johnson wedi bod mewn cysylltiad agos â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen yn y dyddiau diwethaf wrth i ymdrechion lefel uchel ddwysáu i gael bargen.

Awgrymodd llefarydd y Comisiwn Ewropeaidd, Eric Mamer, y gallai cyhoeddiad ddod yn gynnar ar Noswyl Nadolig.

“Bydd gwaith yn parhau drwy gydol y nos,” meddai yn fuan ar ôl hanner nos.

“Dylai pawb sy’n gwylio Brexit ar hyn o bryd gael rhywfaint o gwsg. Gobeithio y bydd yn ddechrau cynnar bore yfory…”

Roedd ochr y Deyrnas Unedig yn disgwyl i drafodaethau ynghylch testun cyfreithiol y fargen – tua 2,000 o dudalennau yn ôl pob sôn – barhau i’r oriau mân.

“Consesiynau enfawr”

Bydd bargen yn rhywfaint o ryddhad i arweinwyr busnes os yw, yn ôl y disgwyl, yn darparu ar gyfer masnach heb dariffau a chwotâu.

Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y gallai Brexit heb gytundeb ddileu 2% oddi ar gynnyrch mewnwladol crynswth – mesur o faint yr economi – yn 2021, gan ychwanegu at y difrod a achoswyd eisoes gan y coronafeirws.

Ond bydd manylion y fargen yn cael eu harchwilio’n ofalus i weld lle mae’r naill ochr a’r llall wedi cyfaddawdu.

Mae adroddiadau bod Prydain wedi cynnig cyfnod pontio hirach o ran hawliau pysgota nag yr oedd yn ei ddymuno o’r blaen ac y byddai’n cytuno bod yr Undeb Ewropeaidd yn dychwelyd dim ond 25% o’i gwotâu yn nyfroedd Prydain ar ddechrau’r broses.

Mae ffynonellau yn Ffrainc eisoes wedi dweud bod y Deyrnas Unedig wedi gwneud “consesiynau enfawr”, yn enwedig ar bysgodfeydd – sy’n fater symbolaidd o bwys ar ddwy ochr y Sianel.

Mae unrhyw fargen y mae Mr Johnson yn ei sicrhau yn debygol o fynd drwy’r Senedd gan nad oes disgwyl i Lafur ei wrthwynebu – mae Keir Starmer wedi pwysleisio y byddai cytundeb er budd Prydain.

Ond dywedodd y grŵp o Frecsitwyr caled dylanwadol ar feinciau’r Ceidwadwyr, Grŵp Ymchwil Ewrop (yr ERG), y byddent yn craffu’n fanwl iawn ar unrhyw fargen.

Bydd yn rhaid i 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd gefnogi unrhyw fargen.

Byddai ASau ac arglwyddi yn cael eu galw’n ôl i bleidleisio ar unrhyw fargen yr wythnos nesaf, ond mae Senedd Ewrop wedi dweud na fydd ganddynt amser i gadarnhau bargen cyn 1 Ionawr – sy’n golygu bod unrhyw gytundeb yn debygol o fod yn un dros dro i gychwyn.

Dadlau’n dechrau?

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan eisoes wedi dweud y bore yma y bydd y fargen – beth bynnag fydd y manylion – yn “bell iawn iawn” o’r hyn a addawyd i’r cyhoedd yn refferendwm 2016, ac yna etholiad 2019.

Er ei bod yn cyfaddef bod cytundeb “yn rhoi’r lefel isaf bosib o sefydlogrwydd ar ôl cynifer o flynyddoedd o ddadlau” ac y bydd yn “rhyddhad i lawer” o’i gymharu â pheidio cael bargen, dywed Liz Saville Roberts wrth y BBC:

“Dywedwyd wrth Gymru y byddem yn parhau i gael yr union un manteision, na fyddem yn cael ceiniog yn llai, ac y byddai ein ffermwyr yn gallu gwerthu eu cynnyrch i weddill Ewrop fel o’r blaen.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi torri eu haddewidion i Gymru.”

Ychwanega AS Dwyfor Meirionnydd y bydd “costau newydd sylweddol a biwrocratiaeth gymhleth” i fusnesau, bydd dyfodol ein pobl ifanc yn cael ei “fygwth” a bydd yn “dileu llawer o’n hawliau fel dinasyddion”.