Mae gŵr o Lanfyrnach wedi cael ei ddedfrydu am gamdrin 31 o geffylau.

Bydd Alun Lloyd yn wynebu chwe mis o garchar wedi’i ohirio, ar ôl cael ei ganfod yn euog o naw trosedd wahanol o dan y Ddeddf Llesiant Anifeiliaid.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mawrth yn Llys y Goron Llanelli, ar ôl methu ag ymddangos yn y llys cyn hynny.

Ynghyd â’r ddedfryd, mae Alun Lloyd wedi’i wahardd rhag cadw, na bod yn berchen ar geffylau, am ddeg mlynedd, ac wedi derbyn dirwy o £1,500, a chostau llys.

Ni all apelio yn erbyn y gwaharddiad am bum mlynedd.

Y troseddau

Roedd 31 o geffylau yn cael eu cadw mewn amgylchedd anaddas, mewn nifer o gaeau lle’r oedd llysiau’r gingroen (ragwort) yn tyfu yn Esgyr Fawr, Cippyn.

Roedd troseddau pellach yn berthnasol i saith o’r ceffylau – gyda chwech ohonynt yn dioddef heb fod angen yn sgil diffyg gofal Alun Lloyd.

Roedd un yn dioddef oherwydd y driniaeth wael, tra bod pump arall mewn cyflwr corfforol gwael ac yn denau.

Roedd un ohonynt yn dioddef efo briwiau sarcoid, tra bod un arall efo problemau mawr gyda’i ddannedd.

Methodd Alun Lloyd â edrych ar ôl tri cheffyl oedd yn dioddef o chwain, tra bod un arall angen gofal milfeddyg yn sgil trafferthion anadlu.

Yn anffodus, roedd rhaid i bedwar o’r ceffylau gael eu difa yn sgil eu cyflwr.

Mae gan Alun Lloyd 28 diwrnod i wneud trefniadau ar gyfer y ceffylau sydd dal yn ei ofal.

“Anifeiliaid sy’n talu’r gost”

Cafodd yr RSPCA eu hysbysu am gyflwr y ceffylau gan Heddlu Dyfed Powys, cyn dechrau ymchwiliad.

Dywedodd swyddogion yr elusen fod cyflwr y ceffylau wedi parhau’r un fath, hyd yn oed ar ôl cynnig cyngor i Alun Lloyd sawl gwaith.

Dywedodd ymchwilydd i’r RSPCA, Katie Hogben: “Yn anffodus, fe welon ni nifer o geffylau nad oedd yn derbyn gofal addas – roedd arferion magu anifeiliaid gwael, a chaeau yn llawn ragwort yn creu problemau difrifol.

“Fe wnaeth cyflwr saith ceffyl achosi pryder mawr – gyda chyfuniad o iechyd corfforol gwael, colli pwysau, problemau gyda’r dannedd, a briwiau yn achosi dioddefaint i’r grŵp yma.

“Mae bod yn berchen ar geffylau yn fraint – ac yn anffodus, er gwaethaf sawl rhybudd, disgynnodd ansawdd y gofal o dan ofynion y gyfraith – ac yn drist iawn, mae’r anifeiliaid yn talu’r gost.

“Yn ffodus, llwyddodd yr RSPCA i ymyrryd, a bydd gan fwyafrif y ceffylau gyfle arall i fod yn hapus.”