Mae glaw trwm wedi achosi problemau mewn rhannau helaeth o dde a chanolbarth Cymru dros nos, yn ogystal â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru wedi derbyn 500 o alwadau yn gofyn am gymorth ddydd Mercher (Rhagfyr 23), yn ôl y BBC, ac mae naw rhybudd am lifogydd mewn grym ar draws sawl ardal.
Roedd dwr wedi llifo i gartrefi ac adeiladau yng Nghaeryddd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru roedd 60.4mm o law wedi disgyn o fewn 13 awr yn Nhrefddyn ger Pont-y-pŵl ddydd Mercher.
Mae’r glaw trwm wedi achosi trafferthion i deithwyr, gyda’r heddlu’n rhybuddio am ddŵr ar y ffyrdd yng Nghaerdydd. Bu’n rhaid cau rhannau o’r M4 a’r M48 a chafodd nifer o drenau eu canslo.
Mae rhybuddion llifogydd mewn grym yn:
Gwy yn Nhrefynwy; Mynwy yn Ynysgynwraidd; Mynwy yn Osbaston; Elai yn Sain Ffagan; Afon Hoddnant yn Nhrebefered; Afon Ewenni yng Nghwrt Gwilym, Pen-coed; Yr Afon Ewenni ym Mhentre Ewenni; a Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i ddolau Trefalyn.