Mae teithwyr o Dde Affrica wedi cael eu gwahardd rhag dod i’r Deyrnas Unedig yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd o Covid-19.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi rhybuddio bod yr amrywiolyn yn fwy heintus na’r amrywiolyn newydd arall sydd wedi arwain at gyfyngiadau Haen 4 mewn nifer o lefydd.

Mae’n debyg mai’r amrywiolyn yma sydd yn gyfrifol am gynnydd mewn achosion yn ne Affrica ac wedi cael ei ddarganfod mewn dau berson yn y DU y credir sy’n gysylltiedig â rhai oedd wedi teithio rhwng y ddwy wlad yn ystod yr wythnosau diwethaf.

O 9yb bore ar Noswyl Nadolig bydd teithwyr sy’n cyrraedd Lloegr sydd wedi bod yn neu wedi teithio drwy De Affrica yn ystod y 10 diwrnod blaenorol ddim yn cael mynediad a bydd hediadau uniongyrchol yn cael eu gwahardd, meddai’r Adran Drafnidiaeth.

Nid yw’r gwaharddiad yn cynnwys awyrennau sy’n cludo nwyddau heb deithwyr, nac yn cynnwys dinasyddion o Brydain ac Iwerddon, pobl sydd a fisa neu breswylwyr parhaol. Fe fyddan nhw’n cael mynediad ond bydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu am 10 diwrnod.

Dywedodd Matt Hancock bod yr amrywiolyn newydd yn “bryderus iawn”.