Mae mam o Sir Gaerfyrddin yn annog pobl i siarad am roi organau’r Nadolig hwn, ac yn dweud mai achub bywyd ei thad oedd y penderfyniad hawsaf iddi ei wneud erioed.
Gwyliodd Lowri Davies, sy’n dod o’r Tymbl, ei thad yn goddef dwy rownd o ddialysis wrth aros am drawsblaniad aren.
Ar y pryd fe wnaeth hi addo i’w hun, pe bai ei thad angen trawsblaniad arno byth eto, na fyddai’n gadael i’w phlant ei wylio’n dioddef.
Ym 1983, cafodd Shôn Hughes ei drawsblaniad cyntaf ac yntau ond yn 33 oed.
Cof plentyn sydd gan Lowri o’r digwyddiadau hyn, ond bymtheg mlynedd wedyn yn 1998, dechreuodd aren Shôn Hughes ddirywio eto.
“Roeddwn i’n 20 oed ar y pryd, ac yn gallu gweld fel oedolyn pa effaith oedd dialysis yn ei chael arno. Doedd e ddim mor egnïol â’r arfer, ac roedd hi’n anodd ei weld yn dirywio,” meddai Lowri Davies.
Yn 2000, wedi dwy flynedd ar restr i gael trawsblaniad, cafodd Shôn Hughes yr ail drawsblaniad.
“Peth gorau i mi ei wneud erioed”
Yn 2011, dechreuodd iechyd Shôn Hughes ddirywio unwaith eto a chafodd y teulu wybod y byddai angen trawsblaniad arall.
Ychwanegodd: “Cyn gynted ag y dywedwyd wrthym fod angen trydydd trawsblaniad ar dad; roeddwn i’n benderfynol na fyddai’n mynd drwy ddialysis eto, a chefais brawf ar unwaith.
“Yn ffodus, roedd fy aren i’n addas i dad. Roedd yn gryn ryddhad i’r teulu cyfan, ond hyd yn oed os na fyddai’r canlyniad wedi bod o’n plaid ni, byddwn wedi parhau â’r daith gydag e ac wedi ymuno â chynllun paru neu gronfa rhoi organau.”
“Wrth edrych yn ôl, achub ei fywyd yw’r peth gorau i mi ei wneud erioed. Rwy’n teimlo’n lwcus i mi gael y fath gyfle.”
“Rwy’n ffodus fy mod wedi gweld gyda fy llygaid fy hun y gwahaniaeth mae fy mhenderfyniad wedi’i wneud i fywyd rhywun. Rwy’n un o’r rhai lwcus sy’n gallu gweld a gwerthfawrogi sut mae fy mhenderfyniad wedi cael effaith ar fywyd rhywun,” meddai Lowri Davies.
“Heb ei roddwyr, byddai dad wedi wynebu bywyd o ddialysis, ac felly rydym yn hynod ddiolchgar ei fod wedi gallu osgoi hynny.
“Gobeithio bod ein profiad ninnau yn annog rhagor i siarad am roi organau fel bod modd achub mwy fyth o fywydau.”
Rhodd bywyd
Mae Shôn Hughes, sydd bellach yn 71 oed, yn mwynhau ei ymddeoliad.
Dywedodd: “Wrth inni nesáu at yr adeg o’r flwyddyn lle rydym yn rhoi anrhegion i’n ffrindiau a’n teulu, rwy’n teimlo’n ddiolchgar fy mod wedi derbyn y rhodd orau ohonyn i gyd – rhodd bywyd.
“Roeddwn i ar fin wynebu cyfnod arall o ddialysis a dyfodol cyfyngedig, ond diolch i Lowri, nid felly mae pethau.
“Dydw i ddim wedi fy nghyfyngu mwyach; nawr, gallaf fwynhau gwylio fy wyrion a’m hwyresau’n tyfu, gallaf dreulio amser gyda’r merched a mwynhau bywyd bob dydd. Mae’n amhosib cyfleu fy ngwerthfawrogiad mewn geiriau – rwy’n wirioneddol ddyledus iddi.”
Mae stori Lowri Davies a’i thad wedi cael ei hadrodd fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog pobol i roi organau.