Flwyddyn union ers tirlithriad yn Tylorstown yn y Rhondda fis Chwefror y llynedd, mae’r Prif Weinidog wedi awgrymu creu cynllun cyllid deng mlynedd i wneud diogelwch pyllau glo yn realiti ledled y wlad.
Bydd y cynllun hefyd yn ystyried effaith newid hinsawdd ar unrhyw waith sydd ei angen.
Ddydd Mawrth, Chwefror 16, cynhaliodd Mark Drakeford uwchgynhadledd i drafod sut i ddiogelu safleoedd tebyg.
Daeth y gynhadledd â’r Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Derynas Unedig, Arweinydd Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, yn ogystal ag Arweinydd Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru, at ei gilydd.
Mae dros 2,000 o domenni glo yng Nghymru, ac mae 294 o’r rheiny yn cael eu hystyried yn rhai “risg uchel” allai achosi perygl i bobol neu eiddo.
‘Cynhadledd gadarnhaol a chynhyrchiol’
“Roeddwn i eisiau galw’r gynhadledd i drafod y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd ac i gytuno, ymhlith pethau eraill, ar atebolrwydd, y broses adfer, pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned sy’n cael ei heffeithio a’r cysylltiadau ehangach â’r agenda diogelwch tomenni glo ehangach,” meddai Mark Drakeford.
“Er bod rhai cymlethdodau i’w datrys, roedd y gynhadledd yn un gadarnhaol a chynhyrchiol, ac roedden ni i gyd yn gytûn am bwysigrwydd rhoi trigolion Sgiwen wrth galon ein cynlluniau.
“Cefais fy nghalonogi o glywed yr Awdurdod Glo a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno ar arwyddocâd hyn, yn ogystal ag arbenigedd ac ysbryd cydweithredol y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.”
Yn dilyn y tirlithiad yn Tylorstown, achosodd gweddillion gweithfeydd glo dan ddaear lifogydd yn ardal Sgiwen fis diwethaf.
Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar drigolion Sgiwen i fod wrth galon yr holl waith.
“Roedd Sgiwen yn hwb i’n deffro ni i gyd,” ychwanegodd y Prif Weinidog.
“Cafwyd llifogydd yn gyflym iawn mewn cartrefi ac mae effaith hyn wedi dychryn y gymuned.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu glawiad, ac felly’n peri risg ychwanegol y bydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto. Mae arnom angen cynllun deng mlynedd i gyllido gwaith i ddiogelu pob pwll glo ledled y wlad, ac mae angen ystyried newid yn yr hinsawdd mewn unrhyw waith wrth symud ymlaen.
“Byddwn yn gweithio gyda phawb cysylltiedig i wneud diogelwch pyllau glo, mwyngloddiau metel a mwyngloddiau eraill, yn ogystal â thomenni glo, yn flaenoriaeth, ac i ddod o hyd i’r llwybr cywir ymlaen ar gyfer mater sy’n bodoli ymhell cyn datganoli.”