Mae tafarn Ty’n Llan ym mhentref Llandwrog ger Caernarfon, oedd unwaith yn ganolbwynt cymdeithasol y gymuned, wedi eistedd yn wag ers tair blynedd bellach.

Er hynny, daw newyddion da o lawenydd mawr i drigolion yr ardal yr wythnos hon, wedi iddynt lwyddo i gasglu dros £350,000 i ddiogelu pryniant yr adeilad, a hynny mewn tridiau!

Y bwriad yw rhedeg y dafarn fel menter gymunedol a’i datblygu fel adnodd defnyddiol i wasanaethu’r gymuned gyfan.

Bydd Cymdeithas Budd Cymunedol yn cael ei ffurfio dros y misoedd nesaf, er mwyn darparu cyfle i unigolion brynu cyfranddaliadau.

“Mae o’n anhygoel!”

Un o aelodau’r grŵp llywio yw Wyn Roberts, perchennog busnes marchnata sydd eisoes wedi gweithio ar fentrau cymunedol tebyg yn y gorffennol, gan gynnwys tafarn Y Plu yn Llanystumdwy, a chanolfan Saith Seren yn Wrecsam.

Eglurai bod criw o ffrindiau wedi clywed bod bwriad i roi adeilad Ty’n Llan ar y farchnad bron i wythnos a hanner yn ôl, cyn trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod y syniad o’i brynu a’i redeg fel menter gymunedol.

“O fewn tri diwrnod, roedden ni wedi casglu digon i gyrraedd yr asking price!” meddai.

“Mae’r ymateb yn deud o’i gyd, mae o’n deud fod pobol isio hyn ddigwydd, bod y gefnogaeth yna, ac mae o jest wedi creu buzz yn syth bin.

“Mae pobol wedi bod mor ffeind – mae o’n anhygoel ac mor exciting!”

“Mae o’n mynd i fod yn fwy nag jest pub”

Cyn i’r dafarn gau, dywedodd Wyn Roberts fod Ty’n Llan yn ganolbwynt cymdeithasol i’r gymuned a’i fod yn rhywle i unigolion, ffrindiau a theuluoedd fynd am baned, peint, neu bryd o fwyd.

Y cam nesaf, meddai, yw ymgynghori gyda’r gymuned leol i drafod eu syniadau, er mwyn sicrhau bod y fenter yn diwallu anghenion y gymuned gyfan.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr fod pawb yn cael mewnbwn i be fydd o’n edrych fel ar ôl agor,” meddai, “achos ti isio gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl o fewn y gymuned a’r ardal yn ei ddefnyddio fo.

“Mae’r sgôp yna i neud o’n be bynnag da ni isio – a’r gymuned sy’n arwain y broses o ran syniadau ac o ran be fydd yn actually digwydd o fewn yr adeilad.

Eu gobaith yw creu hwb cymunedol, yn hytrach nag thafarn yn unig, ble mae modd cynnal digwyddiadau, gweithgareddau a darparu awyrgylch addas i grwpiau gyfarfod.

“Mae o’n mynd i fod yn fwy nag jest pub,” meddai, “mae ganddo ni lwyth o syniadau!”

Tafarn Ty’n Llan

“Perchnogaeth leol i’r gymuned”

Yn ogystal â’u galluogi i siapio’r fenter er mwyn siwtio eu hanghenion, dywedodd bod defnyddio’r model o berchnogaeth gymunedol hefyd yn gallu dylanwadu ar lwyddiant y fenter.

“Os ydi pawb yno yn deud bod nhw’n fodlon prynu shares, fedri di assumio wedyn unwaith bod o’n agored, fod pawb yn dod i’w gefnogi fo hefyd,” meddai.

“Dyna pam mae’r model yn gweithio mor dda, nhw sydd bia fo a pan wyt ti bia rhywbeth – ti fwy tebygol o fod isio iddo fo lwyddo.”

Dywedodd bod enghreifftiau llwyddiannus o fentrau cymunedol y gorffennol yn dyst i hynny a’i fod yn awyddus i fwy o gymunedau fabwysiadu’r model.

“Mae yna lot o dafarndai yn cau,” meddai, “dyna ydi’r gwirionedd yn anffodus a dwi’n meddwl bod yna sgôp i gymunedau eraill ar draws Cymru fod yn gwneud hyn – mae o’n digwydd ar draws Prydain.

“Dydi o ddim yn mynd i wneud lot o bres i rywun preifat ond fel menter gymunedol mae o’n rhoi hwb ac yn rhoi rhywle i rywun fynd ac yn rhoi’r berchenogaeth leol i’r gymuned.

“Maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu defnyddio fo ar gyfer y pethau maen nhw hefo diddordeb ynddo – ac os ydi cymunedau ar draws Cymru eisiau gwneud rhywbeth tebyg, nhw sydd rhaid arwain ar y broses.

“Neith neb arall neud o iddyn nhw.”

“Hollol, hollol ffyddiog”

Mae’r criw yn awyddus i adeiladu ar eu llwyddiant cynnar a denu cymaint o fuddsoddwyr a phosib wrth edrych tuag at gamau nesaf y daith.

“Rydyn ni’n hollol, hollol ffyddiog ein bod ni’n mynd i hel yr un amount o bres eto, fel bod ni’n gallu talu’r benthyciadau yma’n ôl,” meddai Wyn Roberts.

“Mae pawb yn cael llais cyfartal, dim otch faint o fuddsoddiad sydd ganddyn nhw yn y lle.”

Dywedodd mai eu bwriad yw manteisio ar sgiliau ac arbenigedd y bobl leol i’w helpu drwy’r broses, boed hynny yn ddylunwyr, cyfieithwyr neu adeiladwyr.

“Rŵan mae’r gwaith caled yn cychwyn,” meddai.

“Watch this space!”

94546

Menter Ty’n Llan yn chwilio am fenthyciad

Osian Wyn Owen

Mae Menter Ty’n Llan, Llandwrog, yn chwilio am fenthyciad er mwyn prynu’r dafarn yn y pentref.