Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, wedi cyhoeddi y bydd Urdd Gobaith Cymru yn derbyn £1.3 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i ddelio ag effaith y pandemig.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Urdd wedi colli bron i hanner ei gweithlu, yn rhagweld colled incwm o oddeutu £14m, ac yn wynebu dyled o £2m.
“Dw i’n falch dros ben heddiw o allu cyhoeddi byddwn ni’n rhoi £1.3 miliwn ychwanegol i’r Urdd i helpu’r mudiad unigryw yma i ailadeiladu,” meddai.
“Mae’r Urdd yn un o gyflogwyr trydydd sector mwyaf Cymru, sy’n darparu ystod eang o brofiadau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc, maen nhw’n helpu i gyflawni nodau ein strategaeth Cymraeg 2050 a chefnogi rhaglenni cymunedol, ieuenctid a phrentisiaethau.
“Bydd yr arian yn helpu i ddiogelu swyddi allweddol yn yr Urdd, gan ei helpu i ddechrau ailadeiladu a chreu cyfleoedd gwaith newydd.
“Edrychaf ymlaen at gael dathlu canmlwyddiant yr Urdd y flwyddyn nesaf wrth i ni ddathlu’r llwyddiannau a fu ac edrych ymlaen i’r can mlynedd nesaf.”
Oherwydd y pandemig bu rhaid i’r mudiad ddiswyddo bron i hanner y gweithlu.
Erbyn hyn, dim ond 165 sydd ar ôl o’r 328 oedd ar un adeg yn gweithio i’r mudiad.
Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi’r Urdd i gyflogi mwy na 60 o staff ychwanegol ac mae cynlluniau ar y gweill i greu hyd at 300 o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf.
‘Hwb sylweddol’
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi diolch i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
“Bydd y buddsoddiad yn hwb sylweddol i’n cynorthwyo fel mudiad wrth i ni ail-adeiladu yn dilyn effaith Covid-19 ar ein gwasanaethau a’n sefyllfa staffio,” meddai llefarydd ar ran yr Urdd.
“Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, bydd y gefnogaeth ariannol yn benodol tuag at ddatblygu ein gwasanaeth Brentisiaethau ynghyd â sefydlogi niferoedd staffio adrannau eraill y mudiad er mwyn ein galluogi i ail-gychwyn ein gwasanaethau wrth i sefyllfa Covid-19 wella.”
‘Osgoi sefyllfa drychinebus’
Fis Ionawr dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis bod y gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol i’r mudiad yn ystod y pandemig.
“Oni bai am gefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru bydden ni wedi bod mewn sefyllfa drychinebus,” meddai wrth golwg360.
“Yn y tymor byr ni fyddai modd i ni ddod nôl i le hoffem ni fod heb y gefnogaeth yna, ond yn yr hirdymor mi yden ni yn awyddus i ddangos ein bod ni yn flaenllaw fel cwmni – ac yn fusnes sydd yn gallu cynnal ei hunan tu hwnt i gyfnod Covid.
“Ond mae rhaid bod yn onest, mae prinder ariannol gyda ni ac mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn heriol.”