Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod cynnydd o 80% wedi bod yn nifer y bobol sydd wedi derbyn ail ddos o’r brechlyn.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae 807,351 o bobol wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn ac mae 12,988 wedi derbyn yr ail ddos.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Mercher dywedodd Eluned Morgan y Gweinidog  Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, bod “cynnydd da” wedi bod yn y rhaglen frechu.

“Mae’r ystadegau yn dangos bod dros 807,000 o bobl wedi cael eu dos cyntaf, sy’n cyfateb i bron i un o bob tri o’r boblogaeth oedolion,” meddai.

“Ac rydyn ni wir yn dechrau gwneud cynnydd da ar yr ail ddosau – roedd cynnydd o 80% yn nifer y bobol gafodd ail ddos ddoe.”

‘Plant yn flaenoriaeth i ni’

Fe amlinellodd y Gweinidog effaith y pandemig ar blant yng Nghymru a’r pwysigrwydd o ddychwelyd plant i’r ysgol.

Mewn arolwg diweddar o dros 20,000 o blant, cafodd sawl peth ei amlygu sydd wedi effeithio ar bobl ifanc Cymru a’u gwneud nhw’n “rhwystredig a blin” am effaith y pandemig.

“Mae’r arolwg ‘Coronafeirws a Fi’ diweddaraf yn rhoi cipolwg da iawn i ni ar sut mae plant wedi bod yn ymdopi â’r cyfyngiadau clo diweddaraf hyn.

“Mae’r canlyniadau’n dangos bod bywyd wedi bod yn anodd i blant o bob oed – roedden nhw’n siarad am rwystredigaeth a hyd yn oed dicter am effaith y pandemig ar eu bywydau.

“Roedden nhw’n son am fethu ffrindiau ac aelodau o’r teulu ac am golli allan ar brofiadau.

“Siaradodd pobol ifanc yn eu harddegau am eu pryderon am arholiadau a’u dyfodol.

“Mae bron i un o bob tri o blant 17 a 18 oed yn dweud eu bod yn poeni rhan fwyaf o’r amser.

“Mae cyfraddau unigrwydd yn uchel, a chofnodir bod peidio â gallu gweld ffrindiau yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant, ac yna’n gallu gweld aelodau eraill o’r teulu ac effaith cau ysgolion a cholegau.

“Mae cael plant a phobl ifanc yn ôl i’r ysgol yn flaenoriaeth i ni.”

Cyhoeddodd y Gweinidog bydd yr Urdd hefyd yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol o £1.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu’r mudiad i “ailadeiladu”.

Blwyddyn “anoddaf ar gofnod” i’r diwydiant creadigol

Bu Eluned Morgan hefyd yn trafod effaith y pandemig ar y diwydiant creadigol yng Nghymru.

“Mae Cymru’n adnabyddus ledled y byd am ein celfyddydau a’n diwylliant – mae hyrwyddo ein doniau yn y sector hwn yn un o elfennau allweddol ein Strategaeth Ryngwladol,” meddai.

“Ond mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o’r rhai anoddaf erioed i’n sector creadigol.

“Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi darparu ystod o gymorth ariannol i’r sector creadigol i’w helpu drwy’r pandemig.

“Rydym wedi sicrhau bod £63m ar gael drwy’r Gronfa Adfer Diwylliannol, sy’n cynnwys bron i £20m ar gyfer y Gronfa Lawrydd, sy’n unigryw i Gymru.

“Dw i’n awyddus i rannu ychydig o enghreifftiau gyda chi heddiw ynglŷn â sut mae’r cyllid hwn yn cefnogi unigolion a sefydliadau amrywiol.

Cyfeiriodd y gweinidog at Ymddiriedolaeth Nantgwrtheyrn, a bîtbocsiwr o Flaenau Gwent sydd wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Adfer Diwylliannol,

“Mae Huw Jones, sy’n gadeirydd Ymddiriedolaeth Nantgwrtheyrn, wedi dweud y bydd yr arian hwn yn helpu i gynnal ei weithlu a gwella’r hyn y gall ei gynnig pan fydd yn gallu ailagor eto.

“Mae ein Cronfa Llawrydd yn darparu grantiau i 3,500 o weithwyr llawrydd sy’n gweithio ledled Cymru. Un ohonynt yw’r bîtbocsiwr, Dean Yhnell, sy’n cynnal sesiynau ysgrifennu caneuon a chwnsela i bobol ifanc.”

Ffigurau diweddaraf

Mae achosion yn parhau i ostwng – mae’r rhif R yn parhau i fod rhwng 0.7 a 0.9.

Ar hyn o bryd mae Cymru yn cofnodi cyfraddau a welwyd ddiwethaf ddiwedd mis Medi: 89.6 achos fesul 100,000 o bobl yn yr wythnos hyd at 12 Chwefror, y gyfradd saith diwrnod isaf ers cofnodi 85.4 ar 29 Medi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 30 yn rhagor o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

Mae’n golygu bod 5,175 o bobol bellach wedi marw ar ôl cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru,

Mae 375 o achosion newydd hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd a’r cyfanswm i 200,166 ers dechrau’r pandemig – bron 1 o bob 3 oedolyn.

Mae 807,351 o bobol wedi derbyn y dos cyntaf o’r brechlyn ac mae 12,988 wedi derbyn yr ail ddos – cynnydd o 80%