Mae Caerdydd ac Abertawe wedi cael eu henwi gan wefan Accor Life Limitless fel dwy o’r dinasoedd gorau yng ngwledydd Prydain am deithiau rhamantus.
Mae’r wefan wedi cymharu’r 25 dinas fwyaf poblog yn y Deyrnas Unedig, gan ddadansoddi nifer y bwytai rhamantus, amgueddfeydd, orielau celf a sbri fesul 100,000 o bobol, cyn rhoi marc allan o gant i’r dinasoedd.
Yn ogystal, fe wnaeth Accor Life Limitless astudio nifer y gerddi cyhoeddus, cost gyfartalog pryd dau gwrs i ddau, a nifer y sinemâu ym mhob dinas.
Daeth Caeredin i’r brig gyda 77 o bwyntiau, gyda Chaerdydd yn seithfed gyda 48 pwynt, tra bod Abertawe yn bymthegfed gyda 33 pwynt.
Mae gan brifddinas yr Alban 58 o fwytai rhamantus, 42 parc cyhoeddus, 11 oriel gelf, 21 o amgueddfeydd, ac 19 o spas.
Ond mae cost gyfartalog pryd dau gwrs i ddau gryn dipyn yn llai yng Nghaerdydd (£40), tra byddai hynny’n costio £55 yn Abertawe.
Datgelodd y dadansoddiad fod gan Gaeredin fwy o fwytai rhamantus na Chaerdydd ac Abertawe gyda’i gilydd.
Wele’r tabl llawn isod: