Mae arweinydd iechyd wedi dweud bod rhaid aros tan y bydd nifer yr achosion gwympo Covid-19 yn cwympo yn sylweddol cyn llacio’r cyfyngiadau.

Dywed Chris Hopson, prif weithredwr Darparwyr y Gwasanaeth Iechyd, y byddai’n rhaid i nifer yr achosion yn Lloegr gwympo’n is na 50,000.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd gan 695,400 o bobol yn Lloegr y feirws ddiwedd yr wythnos ddaeth i ben ar Chwefror 6 – o gymharu â 35,300 yng Nghymru, 24,400 yn yr Alban a 35,400 yng Ngogledd Iwerddon.

“Mae’n eithaf clir bod angen i’r nifer hwnnw [yn Lloegr] ostwng i tua 50,000,” meddai Chris Hopson.

Mae’n galw ar y prif weinidog Boris Johnson i ganolbwyntio ar “ddata ac nid dyddiadau yn unig” wrth lacio’r cyfyngiadau.

Mae adroddiadau y bydd Boris Johnson yn gwneud cyhoeddiad am hyn ddydd Llun, Chwefror 22.

Mae disgwyl i Mark Drakeford ddarparu rhagor o wybodaeth am lwybr Cymru allan o’r cyfyngiadau cyn hynny (dydd Gwener, Chwefror 19).

Fodd bynnag, mae Llwyodraeth Cymru eisoes wedi rhybuddio mai “newidiadau bach” yn unig fydd yn cael eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos, gan roi blaenoriaeth i ddychwelyd plant i’r ysgol.

Mae cyfyngiadau cenedlaethol Lefel 4 wedi bod mewn grym yng Nghymru ers Rhagfyr 20.

Beth yw’r adroddiadau?

Yn ôl adroddoddiadau yn y Daily Telegraph bydd angen i achosion Covid-19 gwympo i 1,000 y diwrnod cyn y gellid llacio’r cyfyngiadau, ffigwr sydd hefyd wedi ei awgrymu yn ddiweddar gan Jeremy Hunt, cyn-Ysgrifennydd Iechyd San Steffan.

Roedd 10,625 o achosion newydd yng ngwledydd Prydain ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 16), ac roedd 275 o’r achosion hynny yng Nghymru.

Mae’r Times yn adrodd fod gwasanaeth olrhain cyswllt y Gwasanaeth Iechyd yn paratoi ar gyfer profion cenedlaethol lle bydd mwy na 400,000 o brofion llif un ffordd, sy’n gallu darparu canlyniadau mewn llai na 30 munud, yn cael eu hanfon drwy’r post i gartrefi a gweithleoedd bob dydd o dan gynllun newydd o’r enw ‘Are you ready? Get testing. Go‘.

Ac mae’r Daily Mail yn adrodd fod gweinidogion yn ystyried caniatáu i lety gwyliau agor cyn penwythnos y Pasg ac y gallai tafarndai agor ym mis Mai, gyda hyd at ddwy aelwyd yn cael cymysgu dan do.

Yna, mae disgwyl y bydd hyd at chwech o bobol yn cael cymysgu dan do erbyn mis Mehefin.

Yng Nghymru, mae Mark Drakeford eisoes wedi awgrymu na fydd rheolau yn newid llawer cyn y Pasg.

‘Ymhell o allu dechrau llacio’

Ond mae Darparwyr y Gwasanaeth Iechyd, sy’n cynrychioli ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd, wedi rhybuddio bod gwledydd Prydain ymhell o fod yn barod i lacio’r cyfyngiadau.

Maen nhw wedi nodi pedwar “prawf” y dylid eu hystyried cyn llacio’r cyfyngiadau:

  • Lleihau nifer yr achosion
  • Lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd
  • Symud y rhaglen frechu yn ei blaen
  • Strategaeth effeithiol i reoli achosion yn y dyfodol

“Os edrychwch chi ar y pedwar prawf yma, mae pob un ohonyn nhw yn dweud wrthym ein bod yn dal i fod ymhell o fod yn barod i ddechrau llacio’r cyfyngiadau,” meddai Chris Hopson wrth BBC Radio 4.

“Roedd gennym 500 o gleifion Covid mewn ysbytai ym mis Medi ac eto, 15 wythnos yn ddiweddarach, roedd gennym 34,000 o gleifion, ac roeddem yn agos iawn at gael ein llethu.

“Felly, mae angen bod yn ofalus iawn cyn i chi ddechrau llacio’r cyfyngiadau’n cyn bod angen.”

Mark Drakeford yn awgrymu na fydd rheolau Covid-19 yn newid tan y Pasg

Os bydd achosion yn parhau i ostwng ar yr un raddfa mae’r Prif Weinidog yn gobeithio bydd modd llacio’r rheolau adeg y Pasg