Mae Keith Hann, un o gyfarwyddwyr achfarchnad Iceland wedi colli ei swydd yn dilyn ei sylwadau am Gymru a’r Gymraeg.
Mae llefarydd ar ran y cwmni wedi ymddiheuro am sylwadau Hann, gan fynnu nad ydyn nhw’n “adlewyrchu” ei werthoedd.
Dywedodd y llefarydd ar ran Iceland bod y diswyddiad yn cael ei weithredu “ar unwaith”.
Roedd y sylwadau’n cynnwys trydariad yn awgrymu bod “trigolion rhannau Cetaidd ymylol y DU yn casáu ymwelwyr” a sylwadau ar ei flog personol yn dweud bod y Gymraeg “fel rhywun â chatâr gwael yn clirio ei wddf”.
Dywedodd hefyd “Hoffwn ddweud nad ydw i erioed wedi gadael Lloegr, ond mae mynychu swyddfa’n rheolaidd tua 800 llath y tu mewn i Gymru yn atal hyn yn anffodus.
“Ond, rwy’n ymfalchïo mewn peidio byth ag ymweld â’r Alban er bod gennyf gartref o fewn golwg ar y ffin.”
Mewn trydariadau eraill, awgrymodd y byddai’r cyfyngiadau symud yn “fonws” pe bai’n ei atal rhag “teithio o gartref yn Swydd Gaer i’m swyddfa yng Nghymru bob dydd”.
“Digrifwch”
Wedi i Nation.Cymru dynnu sylw at y sylwadau, aeth Mr Hann ati i rwystro mynediad i’w flog personol, dileu ei gyfrif Twitter a rhoddodd yr ymateb hwn:
“Mae Iceland yn falch o fod yn un o’r cwmnïau mwyaf yng Nghymru, ac yn fuddsoddwr a chyflogwr mawr yn y wlad.
“Ysgrifennwyd yr holl negeseuon Twitter ac erthyglau i’r wasg yr ydych wedi’u dyfynnu gennyf yn bersonol ac nid ydynt yn cael eu cymeradwyo gan Iceland Foods nac yn adlewyrchu barn y cwmni.
“Byddwn wedi gobeithio ei bod hefyd yn amlwg bod pob un o’r rhain wedi’u hysgrifennu â bwriad digrifwch.”
Diswyddo
Fodd bynnag, mewn datganiad heddiw, dywedodd llefarydd ar ran Iceland:
“Mae Iceland wedi cymryd camau yng ngoleuni sylwadau diweddar a wnaed gan ei Chyfarwyddwr Materion Corfforaethol, gan arwain at ddiswyddo Mr Hann ar unwaith.
“Hoffem ailadrodd nad yw’r sylwadau hyn yn adlewyrchu gwerthoedd nac athroniaeth ein busnes mewn unrhyw ffordd.
“Rydym yn gwmni balch o Gymru, gyda hanes hir o fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru, ac yn ymddiheuro am unrhyw ofid a achoswyd.”