Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd trafodaethau’n parhau gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a’r gwledydd datganoledig eraill, ynghylch y posibilrwydd o adael y cyfyngiadau clo tua’r un pryd.
Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn “galonogol” bod haint coronafeirws ar gwymp ar draws y Deyrnas Unedig gyfan ar ôl cyflwyno’r brechlyn.
Roedd yn siarad o ganolfan frechu dorfol yn Stadiwm Cwmbrân fel rhan o gyfres o ymweliadau sy’n gysylltiedig â Covid-19.
Pan ofynnwyd iddo a oedd am i’r Deyrnas Unedig gyfan adael y cyfyngiadau symud gyda’i gilydd, dywedodd: “Rydym yn cael sgyrsiau parhaus gyda Mark Drakeford, gyda chynrychiolwyr eraill o’r llywodraethau datganoledig, am sut i wneud hyn, yn union fel rydym yn gweithio ar y rhaglen frechu gyda’n gilydd.
“Rwy’n credu, ar y cyfan, os edrychwch ar gyfraddau heintio ledled y Deyrnas Unedig, eu bod yn gostwng ychydig nawr. Mae hynny’n galonogol iawn.
“Y cwestiynau mawr y bydd pobl am eu gofyn yw i ba raddau nawr mae hynny’n cael ei yrru gan frechiad.
“Rydym yn gobeithio ei fod, mae rhai arwyddion calonogol, ond mae’n ddyddiau cynnar o hyd.”
‘Dwi wedi bod o gwmpas y byd ac yna i Siapan, dwi erioed wedi dod o hyd i le am frechlynnau fel Cwmbrân’
Gofynnwyd i Boris Johnson hefyd a allai gymryd unrhyw wersi o’r ffordd yr ymdriniodd Prif Weinidog Cymru â’r pandemig yma.
Cymru oedd y wlad gyntaf i gyhoeddi ei bod wedi brechu ei phoblogaeth dros 70 oed ddydd Gwener a Chymru sydd â’r gyfran uchaf o’r boblogaeth wedi derbyn dos cyntaf.
Dywedodd Mr Johnson: “Rwy’n credu bod perfformiad brechu rhagorol wedi bod ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.
“Mae’n wych bod yma yng Nghwmbrân. Rwy’n credu mai 46,000 maen nhw wedi’i wneud yn y ganolfan hon, sy’n gyflawniad rhagorol iawn.
“Dwi’n meddwl, fel mae’r gân yn mynd: ‘Dwi wedi bod o gwmpas y byd o LA i Siapan, ond dwi erioed wedi dod o hyd i le am frechlynnau fel Cwmbrân.’ Beth ydych chi’n meddwl am hwnna?
“Mae’n ymddangos ei fod yn mynd yn eithriadol o dda yma ac mae gwir ysbryd o falchder… ac mae pobol yn gweithio’n galed iawn, a phobol yn dod ymlaen i gael y brechlyn oherwydd eu bod yn gwybod mai dyna’r peth iawn iddyn nhw eu hunain, a’u teuluoedd, a hefyd y peth iawn i’r gymuned gyfan.”