Roedd gadael Erasmus ar ôl Brexit yn “gwbl ddiangen” ond ni ddylai’r Alban roi’r gorau i obeithio ailymuno â’r rhaglen cyfnewid myfyrwyr, meddai Mike Russell, Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban.
Dywedodd Mr Russell nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y gwir wrth y llywodraethau datganoledig.
Ac wrth siarad â Phwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Holyrood, dywedodd Mike Russell y dylai’r Alban barhau i geisio ailymuno â’r cynllun yn dilyn y penderfyniad “wallgof” ei adael.
Dywedodd wrth Aelodau o’r Senedd ei fod ef a Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i aros yn y rhaglen gyfnewid, neu wthio am ganiatáu i’r gwledydd datganoledig barhau i fod yn rhan ohoni.
Fodd bynnag, daeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r casgliad bod y rhaglen yn “rhy ddrud” a thynnu’n ôl o’r rhaglen, gan gyhoeddi dewis arall o’r enw Cynllun Turing a enwyd ar ôl y mathemategydd a’r gwyddonydd cyfrifiadurol, Alan Turing.
Ysgrifennodd Jeremy Miles AoS erthygl ar golwg360 fis diwethaf, sydd isod, yn galw’r penderfyniad i ymadael â’r cynllun yn “warthus”.
❝ ‘Mae’n warthus bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lladd Erasmus’
“Gwael iawn”
Ers hynny, mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi disgrifio Cynllun Turing, y cynllun fydd â’r nod o lenwi’r bwlch, fel un “gwael iawn”.
Bu Prydain yn rhan o gynllun Erasmus ers 1987, ac un o’r rhai oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r cynllun yn y 1970au a’r 1980au oedd y Cymro, Dr Hywel Ceri Jones.
“Gwallgof”
“Dw i eisiau parhau â’r ddadl,” meddai Mike Russell wrth Aelodau Senedd yr Alban.
“Mae gennym lawer o ffrindiau yn Senedd Ewrop sy’n awyddus iawn ein bod yn parhau i gael rhywfaint o gysylltiad.
“Gallwn weld Iwerddon yn mynd â phobl ifanc Gogledd Iwerddon o dan ei hadain a byddant yn gysylltiedig â’r cynllun drwy sefydliadau Iwerddon.
“Mae angen i ni barhau i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud.
“Ond mae dau beth yn gywilyddus yn ei gylch: mae’n gwbl ddiangen, gallem fod wedi aros yn rhan ohono, sy’n hurt; ond hefyd y modd y gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu.
“Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwybod yn iawn beth oedd barn y llywodraethau datganoledig ar y mater hwn ac ni chawsom wybod y gwir amdano.
“Ni ddangoswyd erioed i ni fod yr asesiad gwerth am arian wedi’i gynnal, a hyd at bron y diwedd, roedden ni’n credu fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu aros yn rhan o’r cynllun neu o leiaf geisio aros i mewn.
“Roedd yn wallgof.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am sylw.