Mae cynlluniau i newid terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr ar ffyrdd Cymru gam yn agosach wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau bydd wyth ardal beilot yn treialu’r cynllun newydd.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, y bydd y newid yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau.

Mae’r ardaloedd sydd wedi’u dewis yn cynrychioli gwahanol fathau o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys pentrefi, trefi a dinasoedd.

Yna y nod yw cyflwyno’r cynllun genedlaethol ymhen dwy flynedd, yn Ebrill 2023.

‘Arbed bywydau’

“Mae gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl yn gam beiddgar a fydd yn arbed bywydau,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Rydym wedi gwneud cynnydd o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd dros yr 21 mlynedd o ddatganoli, ond er gwaethaf ein hymdrechion sylweddol digwyddodd y gyfran uchaf o’r holl anafusion – 50% – ar ffyrdd 30mya yn ystod 2018. Ni ellir goddef hyn, felly mae’n rhaid taw gostyngiad i 20 mya ar ein ffyrdd preswyl a threfol eraill lle mae gweithgaredd prysur i gerddwyr yw’r ffordd ymlaen.

“Mae gostwng cyflymderau yn lleihau damweiniau ac yn arbed bywydau, ac ochr yn ochr â hyn bydd ansawdd bywyd yn gwella, gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel.

“Mae hyn yn helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ac mae ganddo ganlyniad cadarnhaol i’n lles corfforol a meddyliol.”

Bydd ffyrdd sydd â chyfyngiad 30mya ar hyn o bryd ac sydd â goleuadau stryd yn yr ardaloedd hyn yn rhan o’r cynllun peilot:

  • Y Fenni, Sir Fynwy
  • Canol Gogledd Caerdydd
  • Glan Hafren, Sir Fynwy
  • Bwcle, Sir y Fflint
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-nedd Port Talbot
  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Sant-y-brid, Bro Morgannwg
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau er mwyn hyrwyddo gwerth y terfyn cyflymder newydd, gan gyflwyno’r achos y bydd lleihau cyflymder yn arwain at gymunedau mwy cydlynus a diogel.