A hithau eisoes wedi treulio pedair blynedd yn Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, ac yn gallu brolio bron i 40 mlynedd yn gweithio mewn gwahanol feysydd o fewn y system gyfiawnder, mae Ann Griffith yn “hollol 100% ffyddiog” y bydd hi’n olynu Arfon Jones yn y brif swydd.

Mae’r etholiadau ar gyfer dewis Comisiynwyr Heddluoedd Cymru yn digwydd ar y chweched o Fai, ac maen nhw yn mynd i fod yn rhai rhyfedd o gofio’r cyfyngiadau corona.