Mae’r girl band bytholwyrdd wedi cyhoeddi sengl at achos da, ac yn anelu at recordio albwm newydd a chael chwarae yn fyw unwaith eto…

Rhaid bod Trindod Sanctaidd Eden yn y categori ‘Trysor Cenedlaethol’ erbyn hyn?!

Yn y blynyddoedd diweddar mae Rachael, Emma a Non wedi cyfareddu torfeydd o filoedd yn y Steddfod a Tafwyl, ac maen nhw yn dathlu bomar o ben-blwydd eleni – chwarter canrif yn y busnes.