Mae Megan, merch 25 oed o Fethesda yng Ngwynedd, wedi creu dipyn o enw iddi hi ei hun ar Twitter yr wythnos hon, ar ôl i’w neges gwrth-fwlio fynd yn feiral.
Ar ôl blynyddoedd o dderbyn sylwadau rhywiol a negeseuon creulon ynglŷn â’i phwysau gan ddynion anhysbys ar-lein, roedd Megan yn teimlo ei bod hi’n amser taro yn ôl.
Erbyn hyn, mae’r neges wedi ennyn cefnogaeth dros 93,000 o bobl ac wedi’i rannu dros 3,000 o weithiau.
Ei gobaith yw defnyddio ei phlatfform newydd i godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag effeithiau niweidiol sylwadau brwnt o’r fath ac i ledaenu’r neges sylfaenol, sef bod yn glên.
“Mae’r comments fela yn aros hefo chdi”
Cafodd Megan amser anodd yn yr ysgol yn blentyn ifanc, ac mae yn dweud iddi gael ei bwlio’n gyson ar hyd ei bywyd.
“Dw i wastad wedi cael fy mwlio,” meddai.
“Ond pan wnes i ymuno hefo Twitter doeddwn i ddim yn disgwyl i’w gael o’n fanna hefyd – roedd Twitter yn fath o safe space i fi ag roeddwn i wedi gwneud lot o ffrindiau ar-lein.
“Y comments dw i wedi’i gael gan ddynion, oedden nhw’n uffernol… yr usual, bod fi’n dew, bod fi’n hyll, pethau awful a comments really sexual hefyd.
“Mae comments fel yna yn aros hefo chdi,” meddai, “fedri di droi dy ffôn i ffwrdd, ond fedri di ddim troi dy hun i ffwrdd.”
Dywedodd bod rheolau llac Twitter, sy’n golygu bod modd i ddefnyddwyr aros yn anhysbys, yn ategu at y broblem.
“Dw i wedi ffeindio bod anonymity yn rhoi lot o hyder i bobl allu bod yn really disgusting,” meddai.
“Achos dydyn nhw ddim hefo’r consequences, does yna neb yn gwybod pwy wyt ti, a fedrith neb ffeindio chdi.”
“Dydi o ddim ots sut wyt ti’n edrych”
Felly, penderfynodd Megan i godi ei llais a rhannu ei neges.
To the men who choose to call me fat online. I’d rather have the body that I have and the soul that I have than be an adult, bullying people online. It doesn’t phase me; says more about you than it does me, babes ♥️ and the fatter my thighs the more dogs that can fit on them. pic.twitter.com/BwS6J9gOLA
— Meg (@Megannibyniaeth) February 14, 2021
“Wnes i jest reid y Tweet yna allan i ddweud: ’dwyt ti ddim am ennill – dydi o ddim yn iawn i fod yn gas hefo pobol, nag i fwlio’.
“Dydi o ddim jest amdanaf i, mae o i bobl rownd y byd – i ddweud: ‘os dwyt ti ddim yn licio’r ffordd mae rhywun yn edrych – dydi o ddim byd i wneud hefo chdi… dydi o ddim o dy fusnes di’.
“Wneith bwlis bigo ar unrhyw beth sydd ddim yn symmetrical amdana chdi – os wyt ti hefo gwallt gwahanol neu fysa fo’n gallu bod yn unrhyw beth.
“Ond os wyt ti’n berson neis, bod gen ti kind soul a bod chdi’n helpu pobol – dydi o ddim ots sud wyt ti’n edrych – beauty is skin deep.”
“Fyswn i’n sbïo yn y mirror a chrio”
Dywedodd ei bod wedi derbyn llu o negeseuon cefnogol gan bobl o bedwar ban byd, yn ferched ac yn ddynion.
“Cyn y tweet yma, doeddwn i ddim hefo confidence o gwbl,” meddai.
“Fyswn i yn sbïo yn y mirror ac yn crio… roeddwn i’n teimlo mor shit amdanaf fi’n hun ac roeddwn i’n teimlo bod y geiriau yma dw i wedi clywed ar hyd fy mywyd yn wir – bod fi yn dew, bod fi yn hyll ac yn ddi-werth.
“Roeddwn i wedi dysgu i fod yn voiceless ac i blendio i mewn i’r crowd, peidio dweud dim byd, cadw bob dim i mewn.
“Ond dw i’n hollol wahanol rŵan a dw i’n adamant i helpu pobol a stopio bwlio, os fedra i.”
“Mae angen bod yn glên a phositif”
Er bod ochr dywyll a niweidiol i gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Megan, sy’n ymgyrchydd frwd dros fudiad YesCymru, bod cymuned Gymraeg glos yn bodoli ar Twitter.
“Pan wnes i ymuno ar Twitter a joinio YesCymru roeddwn i’n ffeindio pobol sydd yn like-minded,” meddai, “a dw i jest wedi ffeindio ffrindiau oes.
“Ffrindiau mor supportive a dw i just yn teimlo fel dw i wedi ffeindio calling fi – i helpu pobol.”
Dywedodd mai ei gobaith yw rhannu ei hanes gydag eraill, drwy ymweld ag ysgolion ledled y wlad i drafod ei phrofiadau.
“Dw i eisiau rhannu fy stori i,” meddai, “a be mae bwlio wedi gwneud i mental health fi – a pham dw i dal yn stryglo.
“Os wyt ti’n bwlio rhywun, mae o’n aros hefo nhw am byth, mae after effects yn uffernol ac yn gallu bod yn fatal.
“Mae angen bod yn glên a phositif – dyna beth mae’r byd ei eisiau a’i angen.”