Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ragor o gefnogaeth ariannol i fusnesau Cymru yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn “croesawu” rhai agweddau o gyhoeddiad coronafeirws Mark Drakeford – ond roedd yn “siomedig” â’r hyn y mae’n ystyried yn “ddiffyg cefnogaeth ariannol” i fusnesau’r wlad.

“Rwy’n croesawu agweddau o gyhoeddiad heddiw gan y Prif Weinidog, yn enwedig dychwelyd mwy o blant i’r ystafell ddosbarth, sy’n flaenoriaeth i bob un ohonom.

“Fodd bynnag, rwy’n siomedig â’r diffyg cymorth ariannol ychwanegol a map ffordd i adferiad i fusnesau ledled Cymru sy’n ceisio goroesi.

“Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio cyfnod yr adolygiad nesaf i ddarparu manylion o’r fath a chadarnhau y bydd y gwyliau ardrethi busnes yn cael eu hymestyn i’r flwyddyn nesaf ar gyfer y sectorau manwerthu, lletygarwch, twristiaeth a hamdden.

“O ystyried pwysigrwydd ymarfer corff i les corfforol a meddyliol, rwy’n falch bod nifer y cyfarfodydd y tu allan i’r diben hwn wedi cynyddu, ond gellid gwneud mwy o hyd yn y maes hwn, yn enwedig o ran gweithgareddau plant a champfeydd.

“Mae’n anodd i lywodraethau a gwleidyddion ffeindio’r cydbwysedd cywir, ond gyda llwyddiant ysgubol rhaglen frechu Prydain, mae’n bwysig ein bod yn darparu gobaith i’r cyhoedd yng Nghymru.”