Mae Prif Weinidog Prydain wedi annog arweinwyr y byd i gydweithio er mwyn trechu’r coronafeirws a sicrhau bod y pawb ar draws y byd yn cael eu brechu yn erbyn yr haint.

Wrth annerch cyfarfod rhithwir o arweinwyr gwledydd y G7 o Stryd Downing, dywedodd Boris Johnson ei bod hi’n bwysig nad yw gwleidyddion yn cystadlu i frechu mwy na’i gilydd.

Hyd yma mae gwledydd Prydain wedi brechu mwy o bobol na phob gwlad arall ond Israel, Chile, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Serbia.

‘Symud gyda’n gilydd’

“Mae gwyddoniaeth o’r diwedd yn trechu covid, sy’n beth gwych ac yn hir-ddisgwyliedig,” meddai Boris Johnson.

“Ond does dim pwynt i ni frechu ein poblogaethau unigol – mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y byd i gyd yn cael ei frechu oherwydd bod hwn yn bandemig byd-eang ac nid yw o unrhyw ddefnydd i neb bod un wlad ymhell ar y blaen i’r llall, mae’n rhaid i ni symud gyda’n gilydd.

“Felly, un o’r pethau rwy’n awyddus i sicrhau yw ein bod yn dosbarthu brechlynnau ledled y byd – er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y brechlynnau sydd eu hangen arnynt fel y gall y byd i gyd ddod drwy’r pandemig hwn gyda’i gilydd.”

Coronafeirws: Boris Johnson yn “amharod” i gysylltu cyfraddau marwolaeth â mesurau llymder

Ond yn cydnabod bod “dim dwywaith bod rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig wedi cael eu taro’n waeth nag eraill.