Mae Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi dweud ei fod yn “amharod” i gysylltu cyfraddau marwolaethau coronafeirws uchel yn y Cymoedd â mesurau llymder a osodwyd gan Lywodraethau blaenorol y Deyrnas Unedig.

Dywedodd nad oedd “unrhyw amheuaeth” bod rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig wedi cael eu taro’n waeth nag eraill yn ystod y pandemig ond ychwanegodd ei fod yn credu bod yno “nifer helaeth” rhesymau y tu ôl i hynny.

Yr wythnos hon, ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf oedd â’r drydedd gyfradd marwolaeth uchaf o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig.

Ddydd Mercher (Chwefror 17) teithiodd Boris Johnson i Gymru i gynnal cyfres o ymweliadau cysylltiedig â Covid-19, a oedd yn cynnwys canolfan frechu dorfol Cwmbrân, pencadlys Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chanolfan newydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn cytuno â sylwadau’r Prif Weinidog Mark Drakeford bod tlodi a achoswyd gan lymder y tu ôl i’r cyfraddau marwolaeth uchel yn y cymoedd, dywedodd Boris Johnson: “Does dim dwywaith bod rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig wedi cael eu taro’n waeth nag eraill.

“Rwy’n credu y bydd yna adeg pan fyddwn ni’n mynd dros bopeth a phan fyddwn ni’n ceisio darganfod yr holl achosion. Ond rwy’n credu fod yno nifer helaeth o resymau.

“Rwy’n credu bod llawer o bethau gwahanol yn digwydd. Ffactorau gwahanol o bosibl yn bresennol mewn gwahanol leoedd.

“Rwy’n credu y byddwn i’n amharod i briodoli un achos fel hynny.”

Cymru’n debygol o dderbyn “ychydig yn fwy” o gyfran y Deyrnas Unedig o frechlynnau?

Dywedodd Boris Johnson hefyd y byddai San Steffan yn gwneud yn siŵr bod gan bob rhan o’r Deyrnas Unedig “adnoddau priodol” gyda brechlynnau i’r hydref a thu hwnt ond dywedodd nad oedd “unrhyw gynllun ar hyn o bryd i wahaniaethu rhwng gwahanol rannau o’r wlad”.

Mae ei sylwadau’n gwrthgyferbynnu â rhai a wnaed gan Mark Drakeford fis diwethaf pan ddywedodd y byddai Cymru’n debygol o dderbyn “ychydig yn fwy” o gyfran o frechlynnau’r Deyrnas Unedig oherwydd bod ganddi boblogaeth hŷn.

Ffigurau’r cronafeirws, dydd Iau 18 Chwefror

Cofnodwyd 290 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 200,456.

Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 14 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yn y wlad ers dechrau’r pandemig i 5,189.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cyfanswm o 822,633 dos cyntaf o frechlyn Covid-19 bellach wedi’i roi, cynnydd o 15,282 o’i ddiwrnod blaenorol.

Dywedodd yr asiantaeth fod 19,342 o ail ddosau wedi’u rhoi hefyd, cynnydd o 6,345.

Mae cyfanswm o 90.1% o bobl dros 80 oed yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf, ynghyd â 91.9% o’r rhai 75-79 oed a 91.1% o’r rhai 70-74 oed.

Ar gyfer cartrefi gofal pobl hŷn, mae 82.9% o breswylwyr ac 85.1% o staff wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 82.2% o bobl yn y categori sy’n agored iawn i niwed yn glinigol wedi derbyn eu dos cyntaf.

“Rydym yn cael sgyrsiau parhaus gyda Mark Drakeford” medd Boris Johnson ar ymweliad i Gymru

“Dwi wedi bod o gwmpas y byd o LA i Siapan, ond dwi erioed wedi dod o hyd i le am frechlynnau fel Cwmbrân,” medd Prif Weinidog Prydain