Mae Helen Mary Jones AoS wedi cael ei cheryddu yn y llys am aildrydar sylwadau “hynod amhriodol” am achos llofruddiaeth.
Rhannodd Helen Mary Jones neges Twitter a ysgrifennwyd gan ymgyrchydd yn erbyn cam-drin domestig. Roedd y neges yn mynegi “gobaith” y byddai rheithgor yn cael dyn yn euog o lofruddio ei wraig.
Roedd y trydariad, a bostiwyd ddydd Sadwrn ac a rannwyd gan Ms Jones yr un diwrnod, yn ymwneud ag achos Anthony Williams, 70, a laddodd ei wraig Ruth, 67, bum niwrnod i mewn i’r cyfyngiadau clo, ar 28 Mawrth y llynedd.
Cafodd Anthony Williams ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ddydd Iau yn Llys y Goron Abertawe am ddynladdiad oherwydd cyfrifoldeb lleiedig ar ôl ei gael yn ddieuog o lofruddiaeth yn dilyn tystiolaeth y cafodd ei gyflwr meddyliol ei “effeithio’n ddifrifol” yn ystod y cyfyngiadau clo.
Cam-drin “y cyfryngau cymdeithasol, eu dylanwad gwleidyddol, a’u phroffil uchel”
Ar ôl dedfrydu Anthony Williams, cyhuddodd barnwr Helen Mary Jones ac awdur y trydariad, yr ymgyrchydd yn erbyn trais domestig, Rachel Williams, o gam-drin “y cyfryngau cymdeithasol, eu dylanwad gwleidyddol a’u phroffil uchel” ac o beryglu’r achos.
Dywedodd y trydariad, a ysgrifennwyd ochr yn ochr ag erthygl gan y BBC am yr achos: “Troseddwr arall yn defnyddio’r [esgus] ‘I just snapped’. Mae’n bwlsh*t llwyr! Fel y gwyr cynifer ohonom, byddai yna hanes o gam-drin domestig wedi bod.
“Rwy’n gobeithio y bydd y rheithgor hwn yn ei gael yn euog o lofruddiaeth.
“Gorffwys mewn hedd, Ruth.”
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas fod y rheithgor yn yr achos wedi cael ei anfon i ffwrdd am y penwythnos i drafod cyhuddiadau o lofruddiaeth a dynladdiad pan gafodd y neges ei hysgrifennu a’i rhannu.
Dywedodd y barnwr ei fod yn credu bod risg y byddai’r neges “yn dylanwadu ar reithgor” pe baent wedi dod yn ymwybodol ohono – a hynny yn enwedig gan fod dalgylch y llys, ac felly’r rheithgor, yn etholaeth Ms Jones yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
“Ar yr wyneb, mae’n gyfystyr â dirmyg clir o’r llys. Fe wnaeth y ddau ohonoch gam-drin eich cyfryngau cymdeithasol, eich dylanwad gwleidyddol a’ch phroffil uchel,” meddai’r Barnwr Thomas.
“Pe bai rheithgor wedi gweld y trydariad hwnnw, byddai’r achos wedi gorfod cael ei atal ar gost o ddegau o filoedd o bunnoedd o arian cyhoeddus. Byddai hefyd wedi gwaethygu’r oedi mawr yr ydym i gyd yn brwydro ag ef ar hyn o bryd yn y llysoedd troseddol.”
Dywedodd pe bai’r achos wedi’i atal neu ei ddileu, am resymau gan gynnwys pe bai aelod o reithgor wedi gweld y trydariad, byddai’r pâr “mae’n debyg” wedi cael gorchymyn i dalu costau’r “gwastraff”.
Heb “ddarllen y neges wreiddiol yn ofalus”
Dywedodd Ms Jones wrth y llys nad oedd hi wedi “darllen y neges wreiddiol yn ofalus” ond derbyniodd mai ei bai hi oedd peidio â sylweddoli bod yr achos yn parhau.
Dywedodd: “Gallaf sicrhau’r llys fy mod yn deall bod fy sefyllfa fel person sydd a swydd gyhoeddus yn gwneud y mater hwn hyd yn oed yn fwy difrifol.
“Gwnaed yr aildrydariad drwy gamgymeriad gwirioneddol, ond rwy’n derbyn yn llwyr nad yw hyn mewn unrhyw ffordd yn newid difrifoldeb y mater.”
Ymddiheurodd Ms Williams, ymgyrchydd amlwg yn erbyn trais domestig ac arloeswr gyda’r cynllun Gofyn am ANI (sef, Action Needed Immediately), i’r llys a dywedodd y byddai peryglu achos o’r fath “yn mynd yn groes i bob ffeibr yn fy nghorff”.
“Byddai’n mynd yn gwbl groes i bopeth rwy’n credu ynddo i roi trydariad allan i geisio dylanwadu ar unrhyw un ac i beryglu achos mor uchel [sic] â hyn,” meddai.
Dywedodd ei bargyfreithiwr, Kirsten Heaven, wrth y llys fod Ms Williams ei hun wedi goroesi ymgais o lofruddiaeth a thrais domestig gan ei chyn-ŵr, a’i saethodd gyda gwn cyn cymryd ei fywyd ei hun.
Dywedodd y Barnwr Thomas, ar ôl clywed gan y ddwy, nad oedd angen defnyddio gweithdrefn ar gyfer dirmyg llys, a allai arwain at gymryd camau pellach, ac mai dim ond “cerydd sy’n briodol”.
Ond dywedodd ei bod yn “arwyddocaol” nad oedd y naill fenyw na’r llall wedi “trafferthu” i weld a oedd yr achos yn cynnwys hanes o drais domestig, gyda’r trydariad yn awgrymu bod yna, er nad oedd tystiolaeth ohono.
“Yn wir, y dystiolaeth gymhellol o nifer o ffynonellau, gan gynnwys merch yr ymadawedig ei hun, yr oedd hi’n agos iawn ati, oedd nad oedd hi erioed wedi clywed ei thad yn codi ei lais i’w mam,” meddai’r barnwr.
Dywedodd wrth Ms Jones fod ei “hanghyfrifoldeb difrifol yn gosod esiampl wael iawn i eraill”.
Yng Nghymru a Lloegr, bwriedir i reithgor benderfynu ar sail tystiolaeth a glywir yn y llys yn unig, a dywedir wrthynt am anwybyddu unrhyw wybodaeth neu sylwebaeth o ffynonellau allanol, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan amddiffynnydd hawl i dreial teg, a gallai unrhyw beth sy’n peri risg ddifrifol o beryglu achos arwain at ei atal neu ei ddileu.
Mae Deddf Dirmyg Llys yn ei gwneud yn drosedd cyhoeddi unrhyw beth a allai ragfarnu neu rwystro achos.